- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180˚C / 160˚C ffan / Marc Nwy 4.
- Leiniwch dun rhostio mawr gyda haen ddwbl o ffoil.
- Torrwch y llinyn ar y darn o borc, a’i roi yn y tun rhostio yn fflat gyda’r croen ar i fyny.
- Torrwch linellau dwfn yn y porc gyda chyllell finiog, rhwbiwch y pupur Jamaica ynddynt ac ysgeintio cryn dipyn o halen drosto.
- Yna, cymysgwch y triog, sinsir, sudd afal, sudd lemwn, siwgr a sinamon a thywalltwch y gymysgedd i’r tun rhostio.
- Ychwanegwch yr afalau a rhowch ffoil llac o gwmpas y cig – cofiwch adael y croen yn y golwg.
- Coginiwch am tua 2-2½ awr neu nes bod y cig yn dyner a meddal – wrth i’r cig goginio a dechrau crebachu ailosodwch y ffoil o gwmpas y cig.
- Gweinwch gyda thatws stwnsh hufennog a chêl cyrliog wedi’i stemio.
Ysgwydd porc wedi’i rhostio’n araf gydag afalau, sinsir, triog a phupur jamaica
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1.35kg darn o ysgwydd porc
- 1 llwy de o bupur Jamaica
- halen
- 2 lwy fwrdd o driog du
- 2.5cm o wreiddyn sinsir, wedi’I blicio a’i sleisio
- 300ml o sudd afal cymylog
- ½ lemwn, sudd
- 1 llwy fwrdd o siwgr brown meddal
- 1 llwy de sinamon
- 2 afal bwyta, heb y canol, wedi’u torri’n chwarteri