- Cymysgwch y briwgig porc, garlleg, tsili, pupur, past harissa a’r halen a phupur mewn powlen.
- Yna, rhannwch y gymysgedd yn bedwar a chreu pedwar byrgyr taclus ohonynt.
- Cynheswch y gril a rhoi’r byrgyrs i goginio am 12 – 14 munud neu nes byddant yn euraidd ac wedi coginio’n drylwyr.
- Tra bydd y byrgyrs yn coginio, cymysgwch holl gynhwysion y salsa guacamole mewn powlen, yna ei adael i sefyll.
- Pan fydd y byrgyrs yn barod, rhowch ddwy neu dair creisionen tortilla ar eu pen, ychydig o gaws wedi’I gratio a’u rhoi yn ôl dan y gril nes bydd y caws wedi toddi.
- Gweiniwch y byrgyrs ar ddarnau o letys iceberg gyda llwyaid fawr o guacamole a hufen sûr.
Byrgyr porc sbeislyd gyda nachos â chaws
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g o friwgig porc heb lawer o fraster
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 tsili gwyrdd, heb yr hadau, wedi’i dorri’n fân
- 1 pupur coch bach, heb yr hadau, wedi’i dorri’n fân
- 1 llwy de o bâst harissa
- pupur du
Ar gyfer salsa guacamole:
- 2 lwy fwrdd o saws tsili melys
- ¼ ciwcymbr bach, wedi’i dorri’n fras
- 1 afocado aeddfed, wedi’i dorri
- 2 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fân
- sudd ½ lemwn
- 1 tomato, wedi’i dorri’n fras
Gweinwch gyda:
- llond llaw o greision tortilla
- caws Cheddar wedi’i gratio
- hufen sûr i weini
- letys iceberg