- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Marc Nwy 6.
- Rholiwch ddwy ran o dair o’r crwst a leiniwch waelod ac ochrau tin fflan ag ymyl rhychiog 24cm.
- Taenwch y porc a’r cig moch ar y crwst gwaelod. Ychwanegwch y pupurau, a’r afal, a rhowch y caws gafr mewn darnau dros y gymysgedd.
- Rholiwch y crwst sydd ar ôl allan i wneud y latis a’i dorri yn stribedi tua 10 x 1cm.
- Gorchuddiwch y pastai â’r stribedi mewn patrwm delltog a gwasgwch ochrau’r stribedi. Brwsiwch ag wy a llaeth i’w sgleinio.
- Rhowch y pastai mewn ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw a choginiwch am tua 30 munud nes bod y crwst yn euraidd.
- Gadewch iddo oeri rhywfaint cyn ei dorri – mae’n flasus yn oer neu’n boeth!
Tarten latis porc, pupur a chaws gafr
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 30 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 225g ffiled canol lwyn porc, wedi’i thorri’n giwbiau bach
- 2 sleisen o facwn cefn wedi’u halltu a’u mygu, wedi’u torri
- 500g crwst brau
- halen a phupur
- 100g jar o bupurau melys wedi’u grilio, eu draenio a’u torri’n fras
- 1 afal bwyta, wedi’i greiddio a’i sleisio
- 100g caws gafr
- wy a llaeth i’w sgleinio
Dull
Mae’r rysait hon yn gweini hyd at 6-8 o bobl.