- Yn addas i’w goginio’n araf ar yr hob neu yn y popty; os byddwch yn defnyddio’r popty, ewch ati i’w chynhesu ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 5.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch y porc wedi’i ddeisio hyd nes y bydd wedi brownio. Codwch y cig o’r badell.
- Yn yr un badell ffrio, ffriwch y winwns a’r garlleg hyd nes y byddant wedi’u brownio’n ysgafn. Ychwanegwch y cig yn ôl at y badell.
- Ychwanegwch y sbeis gan ei droi am rai munudau. Yna, ychwanegwch y tomatos, y stoc, y syltanas a’r bricyll. Arllwyswch y cymysgedd i sosban â chaead os byddwch yn ei fudferwi ar yr hob, neu i ddysgl dal gwres os byddwch yn ei goginio yn y popty.
- Coginiwch am 1½-2 awr hyd nes y bydd y cig yn dyner.
- Codwch y caead ac ychwanegwch y cwscws, y ffacbys a’r oren. Parhewch i’w goginio hyd nes y bydd yr holl hylif wedi cael ei amsugno – tua 20 munud.
- Gweinwch gyda phinsiad o naddion almon.
Tagine porc gyda bricyll, syltanas ac oren
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 2 awr 30 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1 llwy fwrdd o olew
- 650g o wddf neu ysgwydd porc, wedi’i deisio’n ddarnau mawr, gan dorri’r braster i ffwrdd
- 2 winwnsyn, wedi’u torri
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 2 llwy fwrdd o Ras el Hanout
- 400g o domatos tun, wedi’u torri’n ddarnau
- 600ml o stoc porc neu lysiau
- 75g o syltanas
- 75g o fricyll sych, wedi’u torri’n chwarteri
- 400g o ffacbys tun, wedi’u draenio a’u rinsio
- 100g o gwscws
- 15g o naddion almonau wedi’u tostio
- 1 oren, y croen a’r sudd
- dyrnaid o ddail mintys ffres, wedi’u torri’n fras