- Gwnewch y crwyn gyoza (fel arall, prynwch rai o archfarchnad Asiaidd a dilyn cyfarwyddiadau’r pecyn): hidlwch y blawd mewn powlen fawr, ychwanegu’r halen a defnyddio cyllell i gymysgu’r dŵr berw i mewn yn raddol, nes bod y gymysgedd yn ffurfio toes caled – efallai na fydd angen y dŵr i gyd. Lapiwch y toes mewn cling ffilm a’i roi yn yr oergell am o leiaf 30 munud.
- Gwnewch y llenwad drwy gyfuno’r holl gynhwysion, yna rhowch nhw yn yr oergell nes eich bod yn barod i wneud y gyozas.
- Rhowch y toes oer ar arwyneb o flawd a’i dylino am 5 munud, yna torrwch yn ei hanner a rholio’r haneri allan mor denau â phosibl.
- Gan ddefnyddio torrwr crwn 10cm, torrwch ddisgiau siâp cylch allan o’r toes. Gwnewch gymaint ag sydd eu hangen (bydd y toes yn cadw yn yr oergell am ychydig ddyddiau neu gallwch rewi gyozas sydd heb eu coginio, ond wedi eu llenwi).
- I baratoi’r gyozas, daliwch groen gyoza yng nghledr eich llaw ac ychwanegwch lond llwy de o’r llenwad. Gwlychwch yr ymylon gydag ychydig o ddŵr gan ddefnyddio blaenau eich bysedd a selio’r gyoza, gan binsio ar hyd yr ymylon i greu effaith bletiog.
- Cynheswch badell ffrio nes ei bod yn boeth ac ychwanegwch sblash o olew sesame a sblash o olew llysiau. Rhowch 5 gyoza yn y sosban ar eu hochrau (mae’n haws eu coginio mewn sypiau i’w hatal rhag llosgi). Unwaith y bydd un ochr yn frown euraid, sefwch y gyoza i fyny i liwio’r gwaelod – dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd. Peidiwch â ffrio’r ochr arall!
- Ychwanegwch 3 llwy fwrdd o ddŵr berw i’r badell ffrio’n ofalus, yna gorchuddiwch gyda chaead ar unwaith a choginio/stemio’r gyozas am 2 funud tra eu bod yn dal i sefyll ar eu gwaelod. Yna tynnwch y sosban oddi ar y gwres, gan gadw’r caead ymlaen, a gadewch y gyozas am 2 funud arall i sicrhau bod y llenwad yn cael ei goginio. Cadwch y swp yn gynnes wrth i chi goginio’r gyozas sy’n weddill.
- Gwnewch y saws dipio trwy gyfuno’r saws soi a’r saws tsili melys, yna rhowch nhw mewn powlen a’i weini gyda’r gyozas.
Gyoza porc gyda saws soi a tsili melys
- Amser paratoi 45 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
Ar gyfer crwyn y Gyoza:
- 300g blawd gwyn cryf
- ½ llwy de halen
- 200ml dŵr berw
- 1 llwy fwrdd olew sesame
- 1 llwy fwrdd olew llysiau
Ar gyfer y llenwad:
- 350g mins porc heb lawer o fraster
- 75g dail Tsieinïaidd, wedi eu torri’n fân
- 2cm gwraidd sinsir, wedi ei ratio
- 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
- pupur a halen
- 3 shibwnsyn, wedi eu torri’n fân
- pinsiad o haenau tsili neu ½ tsili coch bychan, wedi ei dorri’n fân
- 1 llwy fwrdd saws wystrys
- pinsiad o siwgr
- 1 llwy de blawd corn
Ar gyfer y saws dipio:
- 2 lwy fwrdd saws soi â llai o halen
- 3 llwy fwrdd saws tsili melys
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud tua 30 gyoza (twmplenni porc, shibwns a sinsir).