facebookPixel

Tameidiau porc Thai gan Food: a fact of life

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g briwgig porc
  • 4 shibwn, wedi’i dorri
  • 2 garlleg, wed’i falu
  • 1 tbsp coriander, wed’i dorri
  • 1 leim, suddedig, wedi ei zestio
  • 5cm sinsir, wed’i ratio’n fân

Ar gyfer y saws dipio:

  • 1 llwy fwrdd saws soy
  • 1 llwy fwrdd saws tsili melys
  • 1 llwy de mêl

Dull

Eisiau ennyn diddordeb eich plant mewn coginio cartref? Rydym wedi gweithio gyda tîm y sefydliad bwyd addysgol Food: a fact of life i greu’r rysáit bychan a blasus yma i’r plant ei drio heb ormodedd o oruchwyliaeth gan oedolion. Gallwch fwynhau’r tameidiau ar ben eu hunain fel rhan o blat ehangach neu byrbryd, neu ei greu’n bryd llawn drwy ei weini gyda nwdls gyda nwdls a llysiau wedi’u tro-ffrio neu trwy ychwanegu tatws newydd, corn babi, pys melys a brocoli wedi’i stemio.



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Rhowch y briwgig porc mewn powlen gymysgu fawr.
  3. Paratowch y cynhwysion: tynnwch wreiddyn y shibwn a’i sleisio’n gylchoedd; torrwch y garlleg a’r coriander; zestiwch y leim yna’i dorri’n ei hanner a’i suddo.
  4. Ychwanegwch y cynhwysion i’r bowlen gyda’r briwgig porc a’i droi’n dda.
  5. Rhannwch y gymysgedd i mewn i 12 pelen gyfartal. Fflatiwch ychydig a’u rhoi ar hambwrdd pobi.
  6. Pobwch nhw yn y poty am 20 munud.
  7. Gwnewch y saws dipio: arllwyswch y saws soi i mewn i bowlen gymysgu fach, ychwanegwch y mêl a’r saws tsili melys yna’i droi yn dda.
  8. Gweinwch nhw ar ben eu hunain gyda’r saws dipio fel byrbryd ysgafn, neu gwnewch nhw’n brif bryd trwy eu gweini gyda nwdls a llysiau wedi’u ffrio-droi neu ychwanegu tatws newydd, corn babi, pys melys a brocoli wedi’i stemio.
Share This