Mae Wythnos Genedlaethol Cigyddion yn un o uchafbwyntiau calendr cigyddiaeth y DU, gyda chigyddion ledled y wlad yn cael eu hannog i ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a denu pobl newydd sy’n dwlu ar gig. Bydd Wythnos Genedlaethol Cigyddion 2022, sy’n cael ei chynnal eleni rhwng 07 a 13 Mawrth, yn dathlu cigyddion manwerthu ledled y DU sydd wedi cefnogi cymunedau yn ystod pandemig Covid-19.
Gyda cefnogaeth y Meat Trades Journal, nod y digwyddiad yw tynnu sylw at y gwaith caled a wnaed gan gigyddion dros y flwyddyn ddiwethaf, gan roi cyfle perffaith i gigyddion ymgysylltu â chwsmeriaid presennol ac ennill rhai newydd.
Mae Wythnos Genedlaethol Cigyddion yn gyfle gwych i rannu eich nwyddau gyda’ch cwsmeriaid. Os oes gennych chi unrhyw lyfrynnau dros ben yn dilyn Wythnos Porc o Gymru yn mis Ionawr, dyma’r amser i’w defnyddio nhw!
Os ydych chi’n brin o ysbrydoliaeth, gallwch chi gyfeirio cwsmeriaid at ein hadran ryseitiau Porc Blasus ar gyfer prydau blasus y gallan nhw eu gwneud gan ddefnyddio cynnyrch a brynwyd yn uniongyrchol gennych chi – eu cigydd lleol.
Gall cigyddion gymryd rhan yn y digwyddiad hwn ledled y DU drwy rannu eu straeon, eu delweddau a’u syniadau ar:
Twitter: @MTJ_tweet
Facebook: @MeatTradesJournal/
Instagram: @meat_trades_journal