- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Marc Nwy 4.
- Rhowch y briwgig porc mewn powlen gymysgu fawr.
- Paratowch y cynhwysion: tynnwch wreiddyn y shibwn a’i sleisio’n gylchoedd; torrwch y garlleg a’r coriander; zestiwch y leim yna’i dorri’n ei hanner a’i suddo.
- Ychwanegwch y cynhwysion i’r bowlen gyda’r briwgig porc a’i droi’n dda.
- Rhannwch y gymysgedd i mewn i 12 pelen gyfartal. Fflatiwch ychydig a’u rhoi ar hambwrdd pobi.
- Pobwch nhw yn y poty am 20 munud.
- Gwnewch y saws dipio: arllwyswch y saws soi i mewn i bowlen gymysgu fach, ychwanegwch y mêl a’r saws tsili melys yna’i droi yn dda.
- Gweinwch nhw ar ben eu hunain gyda’r saws dipio fel byrbryd ysgafn, neu gwnewch nhw’n brif bryd trwy eu gweini gyda nwdls a llysiau wedi’u ffrio-droi neu ychwanegu tatws newydd, corn babi, pys melys a brocoli wedi’i stemio.
Tameidiau porc Thai gan Food: a fact of life
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g briwgig porc
- 4 shibwn, wedi’i dorri
- 2 garlleg, wed’i falu
- 1 tbsp coriander, wed’i dorri
- 1 leim, suddedig, wedi ei zestio
- 5cm sinsir, wed’i ratio’n fân
Ar gyfer y saws dipio:
- 1 llwy fwrdd saws soy
- 1 llwy fwrdd saws tsili melys
- 1 llwy de mêl
Dull
Eisiau ennyn diddordeb eich plant mewn coginio cartref? Rydym wedi gweithio gyda tîm y sefydliad bwyd addysgol Food: a fact of life i greu’r rysáit bychan a blasus yma i’r plant ei drio heb ormodedd o oruchwyliaeth gan oedolion. Gallwch fwynhau’r tameidiau ar ben eu hunain fel rhan o blat ehangach neu byrbryd, neu ei greu’n bryd llawn drwy ei weini gyda nwdls gyda nwdls a llysiau wedi’u tro-ffrio neu trwy ychwanegu tatws newydd, corn babi, pys melys a brocoli wedi’i stemio.