- Cynheswch y popty i 200°C, 180°C ffan
- Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y llenwad gyda’i gilydd.
- Rhowch y ddalen o grwst ar fwrdd ag ychydig o flawd arno.
- Ysgeintiwch y cymysgedd stwffin sych ar y bwrdd a chymerwch lond llaw o’r cymysgedd selsig a’i rolio yn y stwffin.
- Gosodwch y cig selsig i lawr y crwst, oddi ar y canol gan sicrhau bod gennych ddigon o grwst i’w dynnu dros y llenwad.
- Defnyddiwch frwsh crwst wedi’i drochi mewn dŵr neu’r wy wedi’i guro, brwsiwch yr ymyl i lawr ac yna codwch y crwst dros y cymysgedd selsig, cyn ei dorri a’i wasgu i selio’r ymyl.
- Torrwch yn rholiau selsig unigol a’u rhoi ar hambwrdd pobi.
- Brwsiwch y top a’r ymylon gyda’r wy ac ysgeintiwch hadau nigella drostynt.
- Rhowch nhw yn y popty am 25 munud neu nes eu bod yn euraidd a’r canol wedi’i goginio.
Rholiau Selsig Gourmet
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 25 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- Dalen 320g crwst pwff wedi’i rolio’n barod
- 1 wy wedi’i guro
- 6 selsigen porc trwchus, y llenwad wedi’i dynnu
- 1 llwy fwrdd siytni winwns wedi’u carameleiddio
- 1 llwy fwrdd teim ffres wedi’i dorri neu 1 llwy de teim ffres
- 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
- 75g cymysgedd stwffin sych
- Blawd plaen i rolio allan a siapio.
- Hadau nigella i addurno
Dull
Mae’r rholiau selsig gourmet yma yn perffaith i’w weini wrth ddifyrru gwesteion, neu’n ychwanegiad gwych at eich picnic nesaf.