facebookPixel

Peli cig porc Asiaidd gyda sglein mêl a sinsir

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g porc mâl
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • Darn 3cm sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n fân
  • ½ llwy de naddion tsili
  • 30g briwsion bara panko
  • Pinsied o bupur du
  • 1 wy bach, wedi’i guro
  • 1 llwy fwrdd o olew i ffrio.

Ar gyfer y sglein (Gallwch wneud dwbl os ydych chi eisiau mwy o saws)

  • 1 llwy fwrdd olew sesame
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • Darn 3cm o sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 3 llwy fwrdd saws soi halen isel
  • 2 lwy fwrdd finegr mirin neu win gwyn
  • 2 lwy fwrdd mêl clir
  • 2 lwy fwrdd saws hoisin
  • 130ml stoc cyw iâr
  • 1 llwy de blawd corn

I weini:

  • Reis cnau coco
  • Coriander ffres wedi’i dorri
  • Hadau sesame

Dull

Dyma’r rysait perffaith i pryd canol-wythnos – mae’r peli cig porc Asiaidd yma yn llawn blas a gellir paratoi o flaenllaw. Bydd y rysait yma yn gwneud 14-16 pelen cig.



  1. Rhowch yr holl gynhwysion ar gyfer y peli cig mewn powlen fawr a chymysgwch yn dda, gan ychwanegu ychydig o’r wy wedi’i guro yn ôl yr angen i’w dwyn at ei gilydd.
  2. Siapiwch y cig yn beli cyfartal, dylai’r cymysgedd wneud 14-16 pelen.
  3. Rhowch nhw yn yr oergell am 30 munud cyn eu coginio, bydd hyn yn eu helpu i gadw eu siâp.
  4. Pan fyddwch chi’n barod i goginio, rhowch ychydig o olew mewn padell ffrio ac ychwanegu’r peli cig, eu ffrio nes eu bod yn frown, gan eu troi’n ysgafn, gostwng y gwres a’u coginio am 8 munud arall.
  5. Tynnwch nhw allan o’r badell.
  6. Gwnewch y sglein/saws yn yr un badell.
  7. Mewn powlen fach cymysgwch y blawd corn gydag ychydig o ddŵr nes ei fod yn llyfn.
  8. Rhowch yr holl gynhwysion yn y badell a gan ddefnyddio chwisg neu lwy bren, trowch nes ei fod yn llyfn, dewch ag ef i’r berw a’i fudferwi am 2 funud.
  9. Dychwelwch y peli cig i’r badell a’u troi i’w gorchuddio a’u mudferwi am ychydig funudau nes bod y peli cig wedi’u coginio’n drylwyr y tu mewn.
  10. Gweinwch gyda reis cnau coco, wedi’i wneud trwy goginio’r reis mewn tun o laeth cnau coco ac ychydig o ddŵr.
  11. Ysgeintiwch goriander a hadau sesame drostynt.
  12. Blasus gyda winwns bach wedi’u torri!
Share This