facebookPixel

Golwythion Porc Jerk Caribïaidd gyda Salsa Mango

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 olwyth porc
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 llwy fwrdd sudd leim (cadwch y croen ar gyfer y salsa)
  • 2 ewin garlleg wedi’u malu
  • 2 lwy fwrdd sesnin Jerk
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown
  • 1 llwy fwrdd saws soi

Ar gyfer y Salsa Mango:

  • 1 mango, y cnawd wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • 1 winwnsyn coch bach, wedi’i dorri’n fân
  • 1 tomato mawr, wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • Llond llaw o goriander, wedi’i dorri
  • 2 lwy fwrdd o coulis mango neu granadila

Dull

Rysáit flasus ar gyfer golwythion porc i fywiogi eich prydau canol wythnos. Gellir gwneud hyn hefyd yn y ffrïwr aer – gan arbed amser i chi!



  1. Cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y marinâd. Arllwyswch y cyfan i fag sy’n selio â sip ac ychwanegwch y 2 olwyth, cymysgwch yn dda a’i roi yn yr oergell am o leiaf 1 awr.
  2. Rhowch o dan gril poeth am 6-8 munud ar bob ochr, coginiwch nes bod  y golwythion yn euraidd a’r croen yn grimp a’r cig wedi’i goginio drwyddo. (Gallwch eu coginio yn y ffwrn ffrio ar 200°C am 15-20 munud).
  3. Gwnewch y salsa trwy gymysgu’r holl gynhwysion gyda’i gilydd.
  4. Gweinwch gyda’r golwyth a chorn ar y cobyn wedi’i grilio
Share This