facebookPixel

Darn Porc mewn Ffwrn Ffrio Aer â Chrofen Grimp

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 1 awr 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Darn porc bach 1 – 1.4kg.
  • Naddion halen mân
  • Olew

Dull

Prin o amser ond eisiau darn porc blasus, crensiog? Dyma’r ateb i chi – ein darn porc ffrïwr aer yma. Perffaith ar gyfer cinio dydd Sul neu bryd bwyd canol wythnos pan fyddwch chi’n dyheu am gysur. Fe bydd darn 1 – 1.4kg yn gweini 4 person.



  1. Awr cyn coginio, tynnwch y darn porc o’r oergell a’i sychu gyda phapur cegin.
  2. Crafwch yr wyneb gyda chyllell finiog (neu gofynnwch i’ch cigydd wneud hyn i chi).
  3. Pan fyddwch chi’n barod i goginio, cynheswch y ffwrn ffrio i 200-210°C.
  4. Rhwbiwch yr wyneb gyda’r olew a’r halen.
  5. Rhowch yn y ffwrn ffrio ar 200-210°C am 20 munud i gael crofen grimp.
  6. Gostyngwch y tymheredd i 160°C am 40-50 munud arall y cilo.
  7. Gall ffyrnau ffrio amrywio felly gwiriwch fod y tymheredd mewnol yn 70°C (bydd tymheredd y craidd yn codi wrth orffwys).
  8. Ar ôl iddo orffen, diffoddwch y ffwrn ffrio, ei agor ychydig a gadael y cig i orffwys am 15-20 munud cyn ei gerfio.
  9. Os nad yw’r grofen yn ddigon crensiog, gallwch dynnu’r croen a’i roi yn y ffwrn ffrio ar 210-220°C am 10-15 munud.
Share This