- Sleisiwch y cig yn ddarnau tenau.
- Rhowch yr holl gynhwysion ar gyfer y marinâd mewn bag plastig mawr sy’n selio â sip a chymysgu’n dda.
- Ychwanegwch y sleisys porc, cymysgwch yn dda a seliwch y bag. Gadewch iddo farinadu am o leiaf 2 awr, mwy os ydych chi wedi defnyddio’r ysgwydd. (Gallwch ei adael dros nos yn yr oergell).
- Cymerwch 2 neu 3 sgiwer a rhowch y sleisys porc arnynt, gan wneud un cebab mawr. Gwthiwch y cig at ei gilydd yn dynn.
- Coginiwch y cebab yn y popty 220°C, 200°C Ffan, Marc Nwy 6 am tua 40 – 45 munud.
- Gallwch hefyd ei goginio ar y barbeciw gan ei droi’n aml i’w atal rhag llosgi.
- Pan fydd wedi’i goginio’n drylwyr, gadewch i orffwys am 10 munud yna tynnwch y cig i ffwrdd a’i dorri/rhwygo’n fân.
- Gwych wedi’i weini ar fara croyw wedi’i gynhesu, letys wedi’u rhwygo a dip iogwrt mintys.
Cebab Shawarma Porc
- Amser paratoi 2 awr
- Amser coginio 45 mun
- Ar gyfer 4

Bydd angen
- 400g darn trwchus o ysgwydd, coes neu lwyn porc
Marinâd:
- 2 lwy fwrdd olew olewydd
- 2 lwy fwrdd piwrî garlleg
- 2 lwy fwrdd piwrî sinsir
- 1 llwy fwrdd garam masala
- 1 llwy fwrdd powdr cwmin
- 1 llwy fwrdd paprica
- 1 llwy de tyrmerig
- 1 llwy de sinamon
- 1 llwy de powdr tsili (mwyn neu boeth)
- Sesnin
- Sudd ½ lemwn
Dull
Mae’r cebabau shawarma porc yma yn berffaith ar gyfer y barbeciw, neu’n bryd blasus canol wythnos. Gweinwch gyda bara gwastad neu pittas wedi’u cynhesu a dip iogwrt mintys.