Bydd cynhyrchydd porc o gymoedd De Cymru’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘Pencampwr y Pencampwyr’ ar ôl i’w selsig porc gael eu dewis yn orau yng Nghymru gan banel o arbenigwyr.
Yn dilyn llwyddiant ei gystadleuaeth Cyflwynwch eich Selsig Gorau, dan fantell Porc Blasus y llynedd, penderfynodd Hybu Cig Cymru (HCC) gynnal y gystadleuaeth eto eleni yn Sioe Frenhinol Cymru.
Chwynnwyd y cystadleuwyr i ddeg ar gyfer y rownd derfynol, pan gafodd yr holl selsig eu coginio gan ddewin y barbeciw, Chris Roberts. Yna cawsant eu gwerthuso gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys cyn-seren rygbi Cymru a’r Llewod, Scott Quinnell.
Roedd hi’n gystadleuaeth glos, ac yn y diwedd dewiswyd selsigen garlleg a tsili, a wnaed gan y teulu Hayward o Puff Pigs a leolir ar fferm Pen-twyn Uchaf, rhwng Ynys-y-bwl ac Aberpennar, yn fuddugol.
Ar ôl ennill cymal Cymru, mae selsigen arobryn Puff Pigs yn gymwys nawr i gystadlu yng nghystadleuaeth Pencampwr y Pencampwyr yn nigwyddiad gwobrwyo Siop Gigydd y Flwyddyn 2019 yn Llundain. Enillwyd y brif wobr y llynedd gan yr arbenigwyr porc o Ogledd Cymru, Oinc Oink.
Dywedodd Wayne Hayward o Puff Pigs:
“Rydyn ni wrth ein bodd ac yn teimlo’n wylaidd yn ennill cystadleuaeth ‘Cyflwynwch eich Selsig Gorau’. Am ein bod yn gynhyrchwyr ar raddfa fach, wnaethon ni ddim ystyried cystadlu i ddechrau, ond cawsom ein hannog i wneud hynny gan gwsmeriaid, ffrindiau a theulu.
“Gobeithiwn y bydd y wobr hon yn tynnu sylw at rinweddau’r bridiau moch traddodiadol ac yn benodol, yn ein hachos ni, y mochyn Saddleback Prydeinig. Rydym yn angerddol ynghylch sicrhau goroesiad y bridiau prin, yn ogystal ag olrheinedd ein cynnyrch sy’n deillio o anifeiliaid pedigri purlinach. Yn ein barn ni, does dim byd yn debyg i flas a gwead porc o fochyn sy’n tyfu’n araf, a chredwn fod hyn yn rhoi mantais enfawr i ni wrth gynhyrchu selsig.”
Dywedodd Swyddog Datblygu’r Farchnad yn HCC, Kirstie Jones:
“Ers i ni ddechrau’r gystadleuaeth ‘Cyflwynwch eich Selsig Gorau’ i dynnu sylw at y porc rhagorol sy’n cael ei gynhyrchu gan aelodau ein llwyfan hyrwyddo, Porc.Cymru, rydym wedi cael ymateb anhygoel. Roedd nifer ac ansawdd y cystadleuwyr eleni y tu hwnt i’n disgwyliadau.
“Cafodd Scott Quinnell a’r beirniaid eraill eu syfrdanu gan flasau sbeislyd selsigen Puff Pigs’, a gwnaethon nhw fwynhau blasu’r amrywiaeth o selsig a gyflwynwyd gan gynhyrchwyr Cymru.
“Hefyd, roedd yr holl selsig yn gydnaws ag egwyddorion cynhyrchwyr arbenigol ac ymroddedig Porc.Cymru sy’n magu moch mewn cenfeintiau bach, yn aml yn defnyddio bridiau prin, gydag ymrwymiad i les uchel ac ansawdd uchel.”