- Yn gyntaf paratowch y canol lwyn. Tynnwch unrhyw ewynnau gwyn o’r cyhyr a thorri ymaith unrhyw fraster sydd i’w weld. Torrwch yn 3 hyd, ac yna bob un yn ei hanner a thorri pob hanner yn stripiau.
- Cymerwch bowlen fawr ac ychwanegu cynhwysion y marinâd a chymysgu’r cyfan cyn ychwanegu’r stripiau porc. Cymysgwch y cyfan yn dda. Gorchuddiwch y bowlen a’i gosod o’r neilltu am 20 munud wrth i chi baratoi gweddill y tro-ffrio.
- Pan fyddwch yn barod i goginio, paratowch y nwdls yn gyntaf – dewch â sosban ganolig llawn dŵr i’r berw, ychwanegu’r nwdls ŵy a chymysgu i’w gwahanu. Yna ychwanegwch y bok choi a choginio’r nwdls am oddeutu 5 munud tan eu bod yn feddal. Draeniwch yn dda ac ychwanegu ychydig o halen ac ychydig o olew sesame. Gorchuddiwch nhw i’w cadw’n gynnes wrth i chi goginio’r tro-ffrio.
- Cynheswch wok hyd nes bod mwg, ac ychwanegu’r olew a’r winwns a’u cymysgu’n dda. Ychwanegwch y sinsir a’r garlleg a’u coginio tan eu bod yn feddal ac yn dechrau troi’n frown.
Porc y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g ffiled o borc
Ar gyfer y mârinad:
- 1 llwy de fawr o sinsir ffres wedi’i gratio
- 2 ewin garlleg mawr, wedi’u gratio
- 3 llwy fwrdd o saws hoisin
- 2 lwy fwrdd o fêl
- 2 lwy fwrdd o saws soi ysgafn
Ar gyfer y tro-ffrio:
- 2 lwy fwrdd o olew blodau’r haul
- 1 winwnsyn bychan, wedi’i blicio a’i dafellu’n denau
- 200ml o stoc cyw iâr
- 1 darn o sinsir maint cneuen wedi’i dafellu’n denau
- 1 ewin garlleg, wedi’i blicio a’i dafellu’n denau
- 300g o bys sugar snap peas a mangetout wedi’u torri ar eu hyd
- 375g nwdls ŵy sych maint canolig
- 2 bok choi
- 2 lwy de o olew sesame