- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C / 170°C ffan / Marc Nwy 5.
- Cymysgwch y marmalêd, soi, sudd oren, saws ffa du a seren anise mewn powlen fawr.
- Ychwanegwch y sleisiau bol porc a’u gorchuddio yn y sudd. Rhowch orchudd dros y bowlen a’i rhoi i farinadu yn yr oergell am tua awr.
- Tynnwch y sleisiau bol porc o’r marinâd a’u rhoi mewn padell ffwrn, gorchuddiwch nhw â ffoil a’u coginio am tua 50 – 60 munud gan eu troi a’u brasteru’n gyson.
- Gadewch y bol porc i oeri rywfaint ac yna’i dorri’n ddarnau.
- Gweinwch y cig ar wely o ddail Tsieineaidd, letys, egin ffa, shibwns, dail coriander ffres a darnau o oren. Gweinwch gyda’r suddion coginio drosto.
Salad porc, ffa du ac oren
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 1 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 700g sleisys o fol porc, gyda’r grofen a’r braster ychwanegol wedi’u tynnu
- 2 lwy fwrdd marmalêd oren heb groen
- 2 lwy fwrdd saws soi
- 45ml (3 llwy fwrdd) sudd oren
- 4 llwy fwrdd saws ffa du
- 2 seren anise
- 3 deilen tsieineaidd, wedi’u torri’n fras
- ½ letysen fach siâp calon, wedi’i thorri’n fras
- 50g egin ffa
- 3 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
- llond llaw o ddail coriander ffres
- 1 oren mawr, wedi’i blicio a’i dorri’n rhannau