- Rhowch y pedwar wy, yn eu plisgyn, mewn sosban o ddŵr oer hallt a’u berwi. Berwch am 4 munud (am felynwy meddal) neu am 6 munud am felynwy caletach.
- Draeniwch yr wyau a’u trochi mewn powlen o ddŵr rhewllyd am o leiaf 20 munud (os wnewch chi gracio’r plisgyn ychydig wrth eu rhoi yn y dŵr byddan nhw’n haws i’w plicio wedyn).
- Pliciwch yr wyau’n ofalus o dan ddŵr oer o’r tap cyn eu sychu gyda phapur cegin.
- Tynnwch y llenwad allan o’r selsig ac ychwanegu’r mins a’r pwdin gwaed (os ydych chi’n ei ddefnyddio) a chymysgu’n dda. Ychwanegwch y teim, y saets a phupur du mâl ffres.
- Rhannwch y cig selsig yn bedwar a siapio pelen o gwmpas pob wy.
- Rhowch y blawd ar blat, ychwanegu bupur a halen a chymysgu’n dda. Gorchuddiwch bob wy yn y blawd, yna yn yr wy wedi ei guro, ac yn olaf rholiwch nhw yn y briwsion bara tan eu bod wedi eu gorchuddio’n llwyr.
- Cynheswch yr olew mewn padell ddofn, drom i 170ºC (neu tan fod briwsionyn bara yn hisian ac yn troi’n frown wrth gael ei ollwng yn yr olew).
- Rhowch bob wy selsig yn yr olew poeth yn ofalus a’u ffrio’n ddwfn am ryw 6-8 munud, tan eu bod yn euraidd ac yn grimp a bod y cig selsig wedi ei goginio’n llwyr.
- Tynnwch yr wyau selsig allan o’r olew’n ofalus gyda llwy dyllog a’u draenio ar bapur cegin.
- Gweinwch nhw ar unwaith gyda salad bychan i ddatgelu’r melynwy euraidd meddal, neu maen nhw’n wych yn oer fel byrbryd wrth fynd o le i le.
Wyau selsig melynwy perffaith
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 selsigen porc drwchus
- 200g mins porc heb lawer o fraster
- 50g pwdin gwaed, wedi ei falu (dewisol)
- 4 wy maes mawr, yn eu plisgyn
- 1 wy mawr, wedi ei guro’n dda
- ½ llwy de dail teim ffres
- ½ llwy de saets sych
- pinsiad o bupur du
- 125g blawd plaen
- 150g briwsion bara panko
- pupur a halen
- olew llysiau, i ffrio’n ddwfn
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud 4 wy selsig melynwy.