- Dechreuwch drwy sesno’r bochau mochyn yn hael gyda halen. Rhowch bedair llwy fwrdd o olew hadau rêp mewn sosban a’i roi dros wres uchel. Sychwch y bochau mochyn trwy eu taro’n ysgafn â phapur cegin; gosodwch nhw yn y sosban a brownio’r ddwy ochr.
- Tynnwch y bochau mochyn allan o’r badell a gostwng y gwres i ganolig, yna ychwanegwch y winwnsyn a’r moron a’u coginio nes eu bod yn frown euraid.
- Ychwanegwch y garlleg, y seleri a’r mwstard a’u coginio am funud arall.
- Ychwanegwch y seidr, a thewychu’r hylif o hanner.
- Ychwanegwch yr holl gynhwysion sy’n weddill, ynghyd â’r bochau mochyn wedi’u brownio, a choginio dros wres isel am tua dwy awr. Os yn defnyddio ysgwydd porc, coginiwch am tua dwy awr 45 munud.
- Ar ôl i’r bochau mochyn fod yn coginio am tua 45 munud, cynheswch eich ffwrn i 190ºC / 170ºC ffan / Marc Nwy 5. Os yn defnyddio ysgwydd porc, cynheswch eich ffwrn ar ôl tua 1½ awr.
- Rhowch dyllau bach yn y tatws a’u rhoi ar hambwrdd o halen yn y ffwrn. Dylen nhw gymryd tua awr i goginio felly byddan nhw’n barod yr un pryd â’r porc.
- Unwaith y bydd y bochau mochyn yn frau, straeniwch yr hylif drwy ogr a’i dewychu drwy ei ferwi mewn sosban nes ei fod yn sglein trwchus. Ychwanegwch y bochau mochyn yn ôl i mewn i’r sglein. Tynnwch oddi ar y gwres a’u hysgeintio â chennin syfi mân.
- Unwaith y bydd y tatws wedi’u coginio, torrwch nhw’n eu hanner a sgwpio’r canol allan. Rhowch y tatws trwy reisiwr (neu defnyddiwch stwnsiwr) ac i mewn i sosban. Ychwanegwch y menyn fesul tipyn wrth ei droi dros wres isel.
- Yn y cyfamser, ychwanegwch y llaeth a’r hufen i sosban ar wahân a’i ferwi. Unwaith y bydd yn berwi, ychwanegwch y gymysgedd hufen at y tatws fesul chwarter, gan ei droi’n egnïol i greu stwnsh llyfn sidanaidd. Gallwch ychwanegu mwy o hufen os hoffech chi. Gorffennwch drwy ei sesno â halen.
Bochau mochyn wedi’u brwysio mewn seidr gyda thatws stwnsh wedi’u pobi gan Tom Simmons
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 8 boch mochyn (neu gallwch ddefnyddio ysgwydd porc wedi deisio)
- 1 winwnsyn, wedi’i sleisio
- 1 foronen, wedi’i sleisio’n denau
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 ffon seleri, wedi’i sleisio
- 1 llwy fwrdd mwstard Dijon
- 500ml seidr
- 3 coeden anis gyfan
- 1l stoc cyw iâr
- 6 sprigyn o deim
- llond llaw o gennin syfi, wedi’u torri’n fân
- 4 llwy fwrdd olew hadau rêp
- pupur a halen i sesno
Ar gyfer y tatws stwnsh:
- 4 taten Maris Piper ganolig, wedi’u plicio
- 200g menyn
- 150ml llaeth
- 150ml hufen
Dull
Mae’r cogydd o Sir Benfro, Tom Simmons, wedi ymuno â ni i ddangos pam y dylem ddewis porc lleol. Mae Tom, sydd wedi bod wrth y llyw yn Tom Simmons Tower Bridge yn Llundain ers 2017, wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar ac wedi agor Thomas by Tom Simmons ym Mhontcanna, Caerdydd lle gwelir dylanwad coginio Prydeinig a Ffrengig a’r ysbrydoliaeth yn dod gan wreiddiau Cymreig Tom. Dyma bryd i gynhesu’r galon os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol – ond cofiadwy iawn – i’w weini yn ystod y Nadolig.