- Yn gyntaf, ddeuddydd cyn eich bod am fwyta eich Cubanos, rhwbiwch yr halen a’r siwgr ar ddwy ochr y bol porc a’i adael i fwydo yn yr oergell dros nos.
- Tynnwch y bol porc allan o’r oergell a’i roi mewn sosban rostio. Coginiwch ar 240ºC / 220ºC ffan / Marc Nwy 9 am 30 munud ac yna trowch i lawr i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4 am 2 awr arall.
- Rhowch y porc mewn hambwrdd rhostio glân a’i orchuddio â phapur pobi; gosodwch hambwrdd arall ar ei ben, wedi’i bwyso i lawr, i wasgu’r porc yn fflat. Gadewch i oeri eto dros nos yn yr oergell.
- Torrwch y porc yn 10 stribed cyfartal pan fyddwch yn barod i wneud y frechdan.
- Cynheswch badell ffrio sych nes ei bod yn boeth iawn. Rhowch y darnau bol porc i mewn, ochr y croen yn gyntaf, a’u serio ar bob ochr nes eu bod yn grimp ac yn boeth.
- Yn y cyfamser, sleisiwch ychydig o ham gamwn wedi’i bobi’n ffres (neu’r ansawdd gorau y gallwch ei brynu) a chyfuno’r mayonnaise â’r sriracha a’r powdr mwstard.
- Yn olaf, gosodwch eich Cubano yn y fynsen gynnes: a chofiwch, mewn brechdan, fod bara yn ddwy ran o dair o’r cyfan felly defnyddiwch y bara ffres o’r ansawdd gorau y gallwch ei brynu – yn Wright’s rydyn ni’n ei bobi’n ffres bob bore. Taenwch y mayonnaise sriracha ar ddwy ochr y fynsen wedi’i thorri a rhowch haenau o 2 stribed o borc fesul rholyn, yna’r ham wedi’i sleisio, un rhan o bump o’r picls a Cheddar.
- Mae eich brechdan borc anhygoel yn barod i’w bwyta! Gair i gall: peidiwch â’i thorri a’i bwyta gyda chyllell a fforc, mae’n frechdan ac mae angen ei bwyta felly (er bod ei thorri’n ei hanner yn dderbyniol)!
Bol porc Cubano gan Simon Wright
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 2 awr 40 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1kg bol porc
- 5 sleisen drwchus o ham gamwn
- 1 llwy fwrdd halen
- 1 llwy fwrdd siwgr mân
- 4 llwy fwrdd mayonnaise
- 1 llwy de sriracha
- 1 llwy de powdr mwstard
- 200g Cheddar Cymreig wedi’i ratio
- 5 gercyn picl mawr, wedi’u sleisio
- 5 bynsen ciabatta fawr ffres, wedi’u twymo
Dull
Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a’r awdur bwyd a’r darlledwr sydd bellach yn berchennog bwyty ac yn byw yng ngorllewin Cymru, Simon Wright, wedi dod ynghyd i ddangos pam y dylen ni ddewis porc lleol.
Dyma beth mae Simon yn ei ddweud am ei rysáit:
“Dyma ein fersiwn ni o’r glasur o Miami–Ciwba ac mae’n enwog iawn yn Wright’s. Mae cydbwysedd y cynhwysion yn bwysig ac mae croeso i chi addasu fel y mynnoch, ond dyma sylfaen sut rydyn ni’n gwneud y frechdan yn Wright’s. Mae defnyddio porc lleol yn golygu bod ansawdd y cig wir yn disgleirio ac mae’n newid pryd syml a diymhongar fel Cubano o fod yn dda, i fod yn wych.”