- I wneud y saws: cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn am rai munudau tan y bydd yn meddalu ac yn dechrau newid ei liw.
- Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir a’u coginio am rai munudau.
- Ychwanegwch y powdr cyrri a’r blawd a’u cymysgu am funud.
- Yn araf, ychwanegwch y stoc, gan droi’r gymysgedd yn ddi-baid er mwyn osgoi lympiau.
- Ychwanegwch y mêl a’r saws soi. Dewch â’r cymysgedd i’r berw a’i adael i fudferwi am 10 munud. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu rhagor o ddŵr os bydd y cymysgedd yn eithaf trwchus.
- Os ydych am gael saws llyfn, defnyddiwch flendiwr.
- Paratowch y porc trwy ei lapio’n llac mewn cling ffilm a’i daro’n ysgafn â rholbren er mwyn gwneud y stêcs ychydig yn fwy tenau.
- Rhowch y blawd, yr wy a’r briwsion bara mewn tair powlen neu blât bas gwahanol. Dipiwch y stêcs porc yn y blawd, yna yn yr wy, ac yn olaf yn y briwsion bara, gan sicrhau eu bod wedi’u gorchuddio i gyd.
- Cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio’r stêcs porc ar wres isel-canolig – tua 8 munud ar bob ochr.
- Gweinwch y cig gyda reis gludiog a’r saws cyrri katsu blasus, ynghyd â salad crensiog neu golslo hyfryd.
Cyri porc katsu
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 stecen o lwyn porc, heb esgyrn
- 75g o flawds plaen wedi’i flasuso
- 1 ŵy mawr, wedi’i guro
- 25g o friwsion bara panko
- olew ar gyfer ffrio
Ar gyfer y saws:
- 1 llwy de o olew llysiau
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 5cm o wreiddyn sinsir, wedi’i gratio
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd o bowdwr cyri
- 2 lwy fwrdd o flawd plaen
- 250ml o stoc cyw iâr
- 1 llwy fwrdd o saws soi
- 1 llwy fwrdd o fêl