Os ydych chi fel ni yn Porc Blasus wrth eich bodd yn bwyta selsig, mae’n siŵr eich bod chi’n adnabod eich hoff gynhyrchwyr a brandiau yn barod – ond a ydych chi’n gwybod beth sy’n cyfrif fel selsig o’r ansawdd gorau yn dechnegol?
Mae cynhyrchwyr balch ledled Cymru yn aml yn cyflwyno eu selsig i gael eu beirniadu er mwyn ennill llu o wobrau, fel arfer mewn sioeau fel y Sioe Frenhinol ac am wobrau rhyngwladol fel Great Taste. Rhaid i gynhyrchwyr gyflwyno selsig amrwd a selsig wedi eu coginio, ac mae’r beirniadu yn broses tri cham sy’n ystyried amrywiaeth o ffactorau.
Felly, i unrhyw gynhyrchwyr sy’n darllen hwn, neu i gwsmeriaid rheolaidd sy’n mwynhau selsig da, rydyn ni wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn ynglŷn â sut mae’r selsig hynny’n cael eu beirniadu’n swyddogol gan yr arbenigwyr.
Cam un: selsig amrwd
- Golwg: pa mor ddeniadol mae’n edrych, a’i bod wedi ei gorffen gyda phen tynn da
- Maint: mae beirniaid yn sicrhau eu bod yn gwirio bod y selsigen yr un lled drwyddi draw
- Llenwad: a yw’r selsig wedi eu llenwi’n dda â chig o ansawdd da a chynhwysion eraill, wedi eu pecynnu’n gyson, ac nad oes unrhyw fylchau yn y llenwad a allai achosi i’r selsig dorri wrth goginio
Cam dau: selsig wedi eu coginio
- Golwg: A yw’r selsigen wedi ei choginio’n dda, a yw’n edrych yn ddeniadol ac yn flasus?
- Crebachu: os yw’r selsigen wedi crebachu gormod o’i maint gwreiddiol wrth goginio, caiff pwyntiau eu tynnu oherwydd mae hyn fel arfer yn golygu bod ychydig gormod o fraster yn y selsigen yn y lle cyntaf
- Hollti: os yw’r croen wedi hollti wrth goginio, gellir colli pwyntiau
Cam tri: blasu’r selsig
- Ansawdd: mae beirniaid yn ystyried sut mae’r selsigen yn teimlo yn y geg – a yw’n rhy arw, neu’n gadael ôl-flas seimllyd
- Arogl: a yw’r selsig yn arogli’n ddeniadol, ac os yw’n selsig â blas, a yw’r cynhwysion allweddol yn amlwg yn yr arogl?
- Blas: yn bwysicaf oll – a yw’n dda ac yn flasus, ac os yw’n selsig â blas, a yw’r blasau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd?
Os hoffech chi flasu selsig gwych, o ansawdd da ar ôl darllen hwn, ewch draw i’n tudalen ryseitiau am ysbrydoliaeth a’n cyfeiriadur ar-lein o gynhyrchwyr i gael gafael ar rai o’r selsig gorau sy’n eich ardal chi.