facebookPixel

Stiw Kimchi Porc Sbeislyd

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 55 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g ysgwydd neu goes porc wedi’i thorri’n giwbiau mân
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 2 lwy fwrdd past tsili
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 2 winwnsyn, wedi’u torri’n fras
  • 1 foronen fawr, wedi’i sleisio
  • 450g tatws bach, wedi’u haneru
  • 500ml stoc cyw iâr
  • 250g Kimchi
  • 2 lwy fwrdd saws soi halen isel
  • Bwnsiad o winwns bach, wedi’u torri

I weini:

  • Reis wedi’i stemio
  • Coriander a tsili coch wedi’i sleisio (dewisol)

Dull

Mae’r stiw porc a kimchi calonnog yma yn ddysgl fwyd cysur perffaith. Gweinwch gyda reis gwyn a salad, neu faguette crensiog cynnes i sychu’r holl flas i fyny!



  1. Rhowch y porc mewn powlen gyda’r past tsili a’r garlleg a’i droi’n dda. Gadewch y cyfan i farinadu am 30 munud.
  2. Cynheswch y badell neu’r ddysgl gaserol ac ychwanegwch yr olew, yna ffriwch y porc wedi’i orchuddio am ychydig funudau, ychwanegwch y winwnsyn a’i ffrio am 5 munud arall.
  3. Ychwanegwch y stoc a’i fudferwi am 10 munud.
  4. Ychwanegwch y tatws a’r moron a’i fudferwi am 20 munud.
  5. Ychwanegwch y saws soi a’r kimchi a mudferwi am 20 munud arall, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen.
  6. Gwnewch yn siŵr fod y cig yn frau. Os felly, ychwanegwch y winwns bach, a’u troi.
  7. Gweinwch gyda reis wedi’i stemio, coriander a tsili wedi’i sleisio
Share This