Yn gyntaf, hoffem ddiolch i’r holl gynhyrchwyr a gymerodd ran yng nghystadleuaeth ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau’ eleni. Mae safon y ceisiadau wedi bod yn eithriadol ac nid yw dewis y tri gorau wedi bod yn hawdd.
Fodd bynnag, roedd y panel beirniadu o Hybu Cig Cymru a’r cigydd arobryn, Mark McArdle, yn unfrydol yn eu penderfyniad ac maent yn falch iawn o gyhoeddi’r tri cystadleuydd sydd ar y rhestr fer:
Prendergast Butchers (Selsig Garlleg Gwyllt a Phorc)
Edwards o Gonwy (Edwards Firecracker Celebration Sausage)
Red Valley Farm (The Wild Boar Grand Slam)
Mae pencampwyr y ddwy flynedd ddiwethaf, Red Valley Farm, wedi cyrraedd y rownd derfynol unwaith eto, yn ogystal â Prendergast Butchers a gyrhaeddodd rownd derfynol y llynedd, a byddant yn gobeithio mai eleni yw eu blwyddyn nhw. Mae’r cynhyrchydd a’r manwerthwr poblogaidd Edwards o Gonwy wedi gwneud y rhestr fer am y tro cyntaf eleni.
Beth sy’n digwydd nesaf wrth chwilio am y selsig gorau?
Bydd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau’ yn cael ei chynnal brynhawn Iau 27 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd yn un o uchafbwyntiau’r wythnos ar stondin HCC.
Bydd yr enillydd lwcus hefyd yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer cystadleuaeth Pencampwr Pencampwyr y Selsig ledled y DU, a gynhelir yng Ngwobrau Siop Gigydd y Flwyddyn ym mis Chwefror 2024.
Cadwch lygad allan!