- Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 3 .
- Coginiwch yr asennau trwy eu gosod mewn hambwrdd popty, ac ychwanegu ¼ peint o ddŵr. Gorchuddiwch yn dynn gyda ffoil a choginiwch yn y popty am 1.5-2 awr nes bod y porc yn dyner. (Gallwch ddefnyddio popty araf).
- Tynnwch nhw o’r tun a gadewch iddynt oeri.
- Rhowch y grawn pupur Szechuan mewn padell fach a’u cynhesu’n ofalus am 1 munud. Gadewch i’r grawn pupur oeri, ac yna eu malu mewn malwr.
- Cymysgwch y pupur gyda’r halen.
- Gwnewch y marinâd trwy gymysgu’r blawd corn, dŵr, pum sbeis Tsieineaidd a siwgr. Defnyddiwch y cymysgedd i orchuddio’r asennau a’u gadael mewn powlen am awr.
- Cynheswch y popty i 210˚C / 190˚C ffan / Nwy 6 .
- Rhowch yr asennau ar hambwrdd pobi wedi’i iro neu ar bapur pobi nad yw’n glynu, brwsiwch nhw gydag olew a’u rhoi yn y popty am tua 15-20 munud, gan eu troi’n achlysurol. Coginiwch nes eu bod yn grimp.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y tsili, shibwns, garlleg a sinsir a ffriwch am ychydig funudau, yna ychwanegwch y saws soi a’r asennau a’u troi nes bod yr asennau wedi’u gorchuddio. Ysgeintiwch y cymysgedd grawn pupur a halen dros y top.
- Gweinwch nhw ar unwaith.
Asennau porc pupur a halen
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 2 awr 30 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 10-12 asen frain porc
- 1 llwy de halen bras
- ½ llwy de pupur du bras
- ½ llwy de grawn pupur Szechuan
- 2 lwy fwrdd olew
- 1 tsili gwyrdd, wedi’i sleisio’n fân
- 4 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fân
- ½ llwy de sinsir, wedi’i sleisio’n fân
- 3 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n fân
- 1 llwy fwrdd saws soi
Ar gyfer y marinâd:
- 1 llwy fwrdd lawn blawd corn
- 1 llwy fwrdd dŵr
- 1 llwy de powdr pum sbeis Tsieineaidd
- 1 llwy de siwgr brown meddal
I weini:
- Saws tsili melys
- Hadau sesame (dewisol)
- Talpiau leim