facebookPixel

Rag porc rhost

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 1 awr 25 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • Rag porc 6 asgwrn Ffrengig wedi’i docio
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Naddion mân o halen môr

Dull

Mae’r rysáit rac porc hwn yn ddewis arall perffaith i rost dydd Sul traddodiadol. Gwnewch argraff ar eich gwesteion gyda’r dantaith blasus yma.



  1. Tynnwch y rag allan o’r oergell a sychwch yr arwyneb cyfan gyda phapur cegin.
  2. Gadewch iddo gyrraedd tymheredd yr ystafell.
  3. Pwyswch y rag a chyfrifwch yr amser coginio yn seiliedig ar y cyfrifiadau isod.
  4. Cynheswch y popty i 220°C, 210°C popty ffan.
  5. Pan fyddwch chi’n barod i’w goginio, rhwbiwch yr arwyneb gyda’r olew ac yna rhwbiwch ychydig o halen i mewn.
  6. Rhowch y cig ar dribed mewn tun rhostio neu gwnewch dribed gan ddefnyddio llysiau – moron wedi’u torri ar eu hyd, ffyn seleri a thaflwch ychydig o sbrigau teim neu saets a winwns coch wedi’u haneru i mewn.
  7. Coginiwch am 25 munud cyn gostwng y tymheredd i 190°C, 180°C ffan.
  8. Coginiwch am 30 munud arall ar gyfer pob 500g.
  9. Pan fyddwch chi’n barod, tynnwch y cig allan o’r popty, ei orchuddio’n ysgafn â ffoil a gadewch iddo orffwys am 20 munud cyn ei dorri’n ddarnau unigol.
  10. Gweinwch gyda llysiau tymhorol, bresych coch, tatws rhost a grefi.
Share This