facebookPixel

Porc wedi’i Rwygo mewn Saws Barbeciw

  • Amser paratoi 1 awr
  • Amser coginio 6 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • Darn ysgwydd porc
  • 3 llwy fwrdd siwgr brown
  • ½ llwy de halen
  • 1 llwy fwrdd paprica mwg
  • 1 llwy de powdr garlleg
  • 1 llwy de cwmin mâl
  • 1 llwy de powdr winwns
  • 1 llwy de powdr tsili mwyn
  • ½ llwy de pupur du
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 350ml cola neu seidr
  • 1 llwy fwrdd piwrî tomato.

Ar gyfer y Saws Barbeciw:

  • 200g sôs coch
  • 50g mwstard Dijon
  • 100ml cola neu seidr
  • 25g siwgr brown
  • 2 lwy fwrdd Saws Worcestershire

Dull

Rysáit porc wedi’i dynnu blasus y gellir ei baratoi ymlaen llaw a’i ddefnyddio mewn nifer o seigiau, fel yn y frechdan porc wedi’i dynnu gourmet hon.



  1. Cymysgwch yr holl sbeisys a’r siwgr brown gyda’i gilydd a’u rhwbio dros y darn porc. Gadewch i sefyll am awr os yn bosibl (os yw’n hirach, gorchuddiwch y cig a’i roi yn yr oergell).
  2. Pan fyddwch chi’n barod i goginio, cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch y cig gan ei droi i gael lliw da drosto.
  3. Rhowch y cig mewn dysgl popty araf neu ddysgl caserol.
  4. Cymysgwch y piwrî gyda’r hylif a’i dywallt dros y cig. Rhowch gaead ar y ddysgl a choginio am yr amseroedd a nodir: Popty araf | 1 awr ar uchel a 6 awr ar isel neu dros nos ar isel. Popty | 150°C, 130 °C Ffan, Nwy 2 am 6 awr neu nes bod y cig yn frau ac yn haenu.
  5. I wneud y saws barbeciw, cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd, rhowch y cyfan mewn sosban a dod ag ef i’r berw.
  6. Ychwanegwch ychydig o’r hylif o’r ddysgl gaserol a’i ferwi eto.
  7. Gallwch roi’r saws mewn cynhwysydd wedi’i selio a’i gadw yn yr oergell am ychydig ddyddiau neu gellir ei rewi.
Share This