- Mewn powlen fawr cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd ar gyfer y byrgyrs. Rhannwch yn 4 a’u llunio i siâp byrgyr. Rhowch nhw wedi’u gorchuddio ar blât yn yr oergell nes bod eu hangen.
- Casglwch yr holl gynhwysion eraill gyda’i gilydd pan rydych yn barod neu’n eu gweini.
- Holltwch y rholiau bara a thostiwch yr ochr wedi’i thorri neu rhowch ar badell boeth nes eu bod wedi lliwio.
- Tynnwch y byrgyrs o’r oergell 10 munud cyn coginio. Gellir eu coginio ar y barbeciw, eu ffrio mewn padell, eu grilio ar bob ochr neu yn y ffwrn ffrio.
- Coginiwch nhw nes bod y canol wedi’i goginio tua 10 munud.
- Rhowch ychydig o’r saws ar waelod y rholyn bara, ychwanegwch letys, byrgyr, caws wedi’i orchuddio â’r bacwn, y gercinau a mwy o saws.
- Gweinwch gyda sleisys tatws melys a salad.
Byrgyrs Porc Myglyd
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 4

Bydd angen
- 500g cig moch mâl
- 50g briwsion bara
- 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n fân
- 1 llwy de paprica mwg
- ½ llwy de powdr garlleg
- Sesnin
I’w roi at ei gilydd:
- Sleisys bacwn crimp
- Sgwariau caws Cheddar
- Letys wedi’i dorri’n fân
- Gercinau wedi’u sleisio.
- 2 lwy fwrdd mayonnaise wedi’i gymysgu ag 1 llwy fwrdd saws siracha
- 4 rholyn bara o’ch dewis
Dull
Mae’r byrgyrs porc yma yn wych ar gyfer pryd canol wythnos ac maent mor amlbwrpas. Gweinwch gyda sglodion neu salad mawr am opsiwn mwy iach.