- Gwnewch y dip ajo blanco yn gyntaf y diwrnod cyn gweini – mae’n hawdd, peidiwch â phoeni! Yn syml, sociwch yr holl gynhwysion ac eithrio’r grawnwin a’r afalau dros nos, yna cymysgwch gyda’r grawnwin a’r afalau am o leiaf 3 munud. Straeniwch yn fân ac oerwch y cyfan, cyn sesno at eich dant – mae bellach yn barod i’w weini gyda’r prif gwrs yfory.
- Rydyn ni hefyd yn dechrau gwneud y prif bryd ddiwrnod (o leiaf) ymlaen llaw, fel bod gan y bol porc lawer o amser i halltu ac amsugno cymaint o flas aromatig â phosibl. Dechreuwch wneud y gymysgedd halltu drwy roi’r hadau coriander, y grawn pupur, y clofs, y coed anis a’r aeron meryw mewn malwr sbeisys neu gymysgydd a’u cymysgu’n bowdr. Ar wahân, rhowch halen, siwgr, garlleg ffres a choriander mewn prosesydd bwyd a chymysgu am 3 munud nes bod gennych bast gwyrdd llyfn hyfryd. Ychwanegwch y sbeisys mân at y past gwyrdd a’u cymysgu am 2 funud arall. Rhwbiwch y past dros y bol porc (ochr y cyhyrau nid y croen) a’i roi mewn cynhwysydd aerglos am o leiaf 24 awr i halltu yn yr oergell (gallwch dorri’r bol porc yn ei hanner i arbed lle os oes angen).
- Unwaith y bydd y bol porc wedi cael digon o amser i halltu, rinsiwch yn dda o dan ddŵr oer am 5 munud i gael yr holl gymysgedd halltu i ffwrdd, a sychwch y ddwy ochr drwy daro’n ysgafn. Crafwch y croen bob rhyw 1cm gyda chyllell finiog iawn neu gyllell Stanley. Rhwbiwch halen môr ac olew olewydd i mewn i’r croen, gan dylino’n ddwfn.
- Cynheswch eich ffwrn i 220ºC / 200ºC ffan / Marc Nwy 7.
- Torrwch y seleri, y winwnsyn, y cennin, y moron a’r bylb garlleg yn fras, ac unrhyw berlysiau caled sydd wrth law fel rhosmari a teim. Rhowch y llysiau mewn hambwrdd pobi a rhowch y bol porc ar ei ben, gydag ochr y croen i fyny. Ychwanegwch wydraid hael o sieri Amontillado sych i’r hambwrdd a’i rostio am 25 munud.
- Ar ôl 25 munud, trowch eich ffwrn i lawr i 150ºC / 130ºC ffan / Marc Nwy 2 a gadael y porc i goginio am 3 ½ awr arall neu nes ei fod yn frau. Yna trowch y ffwrn yn ôl i fyny i 240ºC / 220ºC ffan / Marc Nwy 9 am yr 20 munud olaf i grimpio’r grofen/tonnen.
- Tynnwch y porc allan a’i orffwys. Mae angen gostwng tymheredd eich ffwrn i 210ºC / 190ºC ffan / Marc Nwy 6 neu 7. Trowch yr holl gynhwysion ar gyfer y ffenigl wedi’i frwysio gyda’i gilydd i’w cymysgu’n dda, yna eu rhoi ar hambwrdd rhostio a’u coginio am 20 munud neu nes eu bod wedi carameleiddio a meddalu.
- Tra bo’r ffenigl yn coginio, rhowch y tun rhostio o lysiau a sudd ar yr hob a’i ferwi. Ychwanegwch joch arall o sieri Amontillado a defnyddiwch sbatwla i stwnsio’r llysiau i gael yr holl flas allan ohonyn nhw. Ychwanegwch y stoc cyw iâr a’i droi, yna ychwanegwch y mêl.
- Gadewch i ffrwtian ar wres isel am tua 20 munud, nes bod ansawdd y saws yn iawn (mae angen iddo orchuddio cefn llwy, ond bod yn deneuach na grefi neu jus). Straeniwch drwy ogr a sesno at eich dant.
- Pan fyddwch yn barod i weini’r pryd, torrwch y bol porc, arllwyswch y saws Amontillado drosto a’i weini ar blat gyda’r ffenigl a dip ajo blanco. Hir yw pob ymaros, ond melys moes mwy!
Bol porc hallt aromatig gyda saws Amontillado gan SherryMonster44
- Amser paratoi 40 mun
- Amser coginio 5 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 5kg bol porc, wedi ei dwtio a’r croen yn dal arno
- 3 ffon seleri
- 3 moronen
- 2 winwnsyn gwyn canolig
- 1 bylb garlleg
- 1 genhinen fawr
- 2 sbrigyn o deim
- 2 sbrigyn o rosmari
- 150ml sieri Amontillado
- 1 llwy fwrdd mêl
- 500ml o stoc cyw iâr
Ar gyfer y gymysgedd halltu:
- 1 llwy bwdin o hadau coriander, wedi eu malu
- 10 grawn pupur gwyn, wedi eu malu
- 6 clof, wedi eu malu
- 3 coeden anis
- 6 aeronen feryw
- 100g halen
- 150g siwgr
- 4 ewin garlleg
- 1 bwnsiad o goriander ffres
Ar gyfer y dip ajo blanco:
- 500g almonau
- 200g bara, heb grystiau
- 1l sudd afal
- 8 ewin garlleg confit
- 1 ciwcymbr, heb groen na hadau
- 400ml olew olewydd
- 4 llwy fwrdd sieri fino
- 20 grawnwinen
- 4 afal, wedi eu plicio a’u sleisio
- pupur a halen
Ar gyfer y ffenigl wedi ei frwysio:
- 3 pen ffenigl, wedi eu sleisio ar eu hyd yn chwarteri
- 1 oren, sudd a chroen
- 25ml olew olewydd ifanc iawn
- 2 lwy fwrdd mêl
- 15ml finegr seidr
- 12 grawn pupur du
- 5 clof
- halen môr i sesno
Dull
Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a’r arbenigwr bwyd @sherrymonster44 – sef Owen Morgan o Grŵp 44 – wedi dod ynghyd i ddangos i chi pam y dylen ni ddewis porc lleol. Sefydlodd Owen Bar 44 gyda’i frawd Toma’i chwaer Natalie yn 2002, ar ôl syrthio mewn cariad â bwyd, diod a diwylliant Sbaen yn ystod eu plentyndod.
Dyma beth mae Owen yn ei ddweud am ei rysáit:
“Rysáit syml ar gyfer bol porc hynod frau yw hon, gyda sbeisys hyfryd a dyfnder blas. Gallech ei defnyddio fel rhost neu ar gyfer llu o bethau eraill. Peidiwch â phoeni am yr amser paratoi a choginio – mae’r amser ymarferol go iawn yn llawer llai ac mae’r canlyniad yn rhyfeddol.
“Gan mai Sbaen yw brenin y porc, mae gwneud popeth gyda phorc yn rhan o ddiwylliant teuluol a chymunedol, hanes a chymdeithas. Mae’n eithriadol o bwysig. Yn Bar 44 rydyn ni wrth ein bodd yn addasu hen ryseitiau Sbaenaidd traddodiadol sy’n defnyddio porc, a’u diweddaru yn ein ffordd ein hunain, heb golli eu hanfod. Rydyn ni’n aml yn cyfuno cynnyrch Cymreig lleol a thymhorol â dulliau a phrydau ochr clasurol o Sbaen.
“Yn y rysáit hon rydyn ni’n gwneud saws hyfryd gyda sieri Amontillado cneuog, sych, cras – y gwydraid perffaith o win i gyd-fynd â phrydau porc. Rydyn ni hefyd yn ei weini gydag ajo blanco afal a grawnwin, cawl garlleg ac almon oer hynafol o Andalucia, a ddefnyddir fel saws/dip. Mae’r blas cneuog yn berffaith gyda bol porc crimp sy’n toddi yn eich ceg.”