facebookPixel

Cystadleuaeth Cyflwynwch Eich Selsig Gorau ar ei newydd wedd ar gyfer 2024

Medi 3, 2024

Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae Porc Blasus yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth flynyddol i ddod o hyd i selsig gorau’r genedl!

Mae naws ychydig yn wahanol i’r gystadleuaeth ar gyfer 2024, gan ei bod yn cael ei chynnal yn hwyrach yn y flwyddyn yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru. Rydyn ni hefyd wedi ailwampio’r fformat i gynnwys dau gategori gwobrau gwahanol: ‘Selsig Porc Traddodiadol Gorau’r Flwyddyn’ a ‘Selsig Porc Nadolig Gorau’r Flwyddyn’. Gallwch roi cynnig ar un neu’r ddau gategori, er mai dim ond un cais a ganiateir fesul categori.

Yn ogystal â’r holl glod – a’r tlws! – byddwn hefyd yn dod allan i ffilmio astudiaeth achos arbennig gyda’r ddau gynhyrchwr buddugol. I gystadlu, y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw llenwi’ch manylion trwy ddilyn y ddolen isod, cyn anfon y selsig atom i’w beirniadu. Bydd y ffurflen yn gofyn ichi restru cynhwysion eich selsig ac amlinellu’n gryno iawn pam rydych chi’n credu y dylen nhw ennill.

Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion ysgrifenedig (ni ddylai’r ffurflen gymryd mwy na 5 munud) yw dydd Llun 21 Hydref 2024. Gallwch llenwi mewn y ffurflen ymgeisio yma.

Telerau ac amodau

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This