facebookPixel

Meithrin tir, anifeiliaid a chymuned yng nghefn gwlad Cymru : Cwrdd â Moch Coch

Hydref 13, 2025

Saif Penrallt Trawscoed yng nghalon cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, lle mae Bethan a Rhun yn ailddiffinio beth mae’n ei olygu i fagu da byw gyda gofal, parch, a chysylltiad dwfn â’r tir.
Lansiwyd eu busnes, Moch Coch, tua thair blynedd yn ôl, ac maen nhw wedi bod yn gwneud cigoedd a salamis wedi’u halltu sydd wedi ennill gwobrau’n gyson, sy’n cael eu sychu’n araf ag aer dros sawl mis, byth ers hynny. Mae hyn yn cynnwys eu chorizo, a enillodd 3 seren yng Ngwobrau mawreddog Great Taste 2024 – yr anrhydedd uchaf posibl a roddir gan Urdd y Bwyd Da.

Wrth wraidd Moch Coch mae ymrwymiad i ffermio’n gynaliadwy, ynghyd â sicrhau’r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid. Mae eu holl ddeunydd pacio’n rhydd o blastig, yn fioddiraddadwy ac yn gyfeillgar i’r cefnfor ac maen nhw wedi ymrwymo i gefnogi bioamrywiaeth ac iechyd y pridd.

Roedd y tir ym Mhenrallt Trawscoed wedi’i adael yn wyllt ers blynyddoedd, ac yn hytrach na’i glirio ar gyfer glaswellt, gwnaethon nhw arsylwi’r hyn roedd eu moch yn ei fforio’n naturiol. Arweiniodd hyn at sylweddoli bod y tir eisoes yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth, gyda chyfoeth o blanhigion yn helpu iechyd anifeiliaid ac iechyd yr amgylchedd.

“Mae iechyd yr anifeiliaid ac iechyd eu hamgylchedd yn cael effaith ar ein hiechyd ni,” noda Bethan, gan dynnu sylw at natur gydgysylltiedig ffermio, bwyd a lles.

I Bethan, nid dim ond blwch i’w dicio yw lles anifeiliaid,

“Mae’n bwysig iawn i ni fod yr anifeiliaid wedi byw bywyd hapus a hir, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn ansawdd y cig a blas yr hyn rydych chi’n ei fwyta.”

Mae eu moch yn crwydro’n rhydd, yn gallu rhedeg, cloddio a throelli fel y mynnant. P’un a ydyn nhw’n twrio yn eu harch neu’n nythu o dan goeden, mae’r anifeiliaid yn mwynhau bywyd o ryddid sy’n fwy nodweddiadol o ffermio ar raddfa lai’r diwydiant porc yng Nghymru.

Mae’r holl waith caled a gofal sy’n cael ei fuddsoddi mewn magu eu hanifeiliaid yn cael ei adlewyrchu yn y cynhyrchion terfynol. Mae rhai o gynhyrchion porc Moch Coch sy’n gwerthu orau’n cynnwys eu chorizo, ynghyd â’u ‘Coppa’, sy’n cael ei wneud o gyhyr gwddf y mochyn, a’u salami ffenigl, sy’n cael ei wneud gyda phupur gwyrdd a hadau cyfan ffenigl.

“Un o’r pethau sy’n gwneud porc Cymreig a fagwyd yn yr awyr agored mor wych, a’i wneud i flasu mor anhygoel, yw ein bod ni’n gweithio gyda bridiau awyr agored cadarn sy’n tyfu’n araf ac yn cael eu magu yn yr amgylcheddau anhygoel yma”, meddai Bethan, gan ychwanegu bod hyn yn cyfrannu at “flas diguro.”

Mae’r busnes wedi dod yn aelod brwd o’r gymuned fwyd leol, gan gydweithio â ffermwyr a chynhyrchwyr eraill i gryfhau cadwyni bwyd gwledig. Drwy gefnogi cynhyrchwyr lleol, mae defnyddwyr yn helpu i sicrhau dyfodol amaethyddiaeth Cymru, sydd yn ei dro’n cefnogi swyddi gwledig sydd nid yn unig yn rhoi hwb i’r economi, ond hefyd yn helpu i ofalu am y tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I Moch Coch, mae ffermio’n fwy na dim ond bywoliaeth. Dywed Bethan

“Rydyn ni mewn sefyllfa lle gallwn ddarparu bwyd gwych yn lleol, ac mewn ffordd gynaliadwy”, cyn ychwanegu ei fod “yn rhan o’n diwylliant a’n treftadaeth, felly mae’n bwysig iawn ac yn hanfodol gofalu amdano er ein mwyn ni i gyd.”

Share This