- Mewn padell fawr neu ddysgl gaserol cynheswch yr olew, ychwanegwch y winwns a’r pupurau a’u coginio am ychydig funudau i’w lliwio ychydig.
- Symudwch y llysiau i’r naill ochr ac ychwanegwch y selsig a’u coginio am ychydig funudau nes eu bod yn frown euraidd. Tynnwch nhw allan a’u torri i mewn i ddarnau (dewisol) a’u dychwelyd i’r badell.
- Ychwanegwch y chorizo a’r garlleg a’u troi am ychydig funudau.
- Ychwanegwch y teim, y paprica, y tomatos, y piwrî a’r stoc a’u troi’n dda.
- Gorchuddiwch y cyfan a’i goginio am 25 munud.
- Ychwanegwch y corbys, eu troi a’u coginio am 5 munud pellach neu nes eu bod yn chwilboeth.
- Ysgeintiwch y cennin syfi.
- Blasus iawn wedi’i weini gyda thatws stwnsh, pasta neu fara trwchus.
Caserol Selsig Porc a Chorizo
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 45 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- Olew
- 8 selsigen
- 2 winwnsyn, wedi’u torri’n fras
- 1 pupur coch, wedi’i dorri’n giwbiau mân
- 1 pupur melyn, wedi’i dorri’n giwbiau mân
- Darn 125g selsigen chorizo, wedi’i sleisio
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd paprica mwg melys
- 1 llwy fwrdd o deim sych
- 1 tun tomatos wedi’u torri
- 1 llwy fwrdd piwrî tomato
- 150ml stoc cyw iâr
- 1 tun wedi’i ddraenio neu fag o gorbys wedi’u coginio
- Cennin syfi wedi’u torri i addurno
Dull
Caserol selsig porc a chorizo calonnog a chynnes – perffaith ar gyfer noson oer y gaeaf. Gweinwch gyda thatws stwnsh hufennog a bara cynnes, crensiog am y moethusrwydd eithaf.