- Cymysgwch holl gynhwysion y marinâd gyda’i gilydd a gorchuddio’r porc. Gadewch i fwydo am o leiaf 6 awr, ond dros nos os oes modd.
- Cynheswch eich ffwrn i 220ºC / 200ºC ffan / Marc Nwy 6.
- Tynnwch y porc o’r marinâd, gan daflu unrhyw ddarnau o sinsir, garlleg neu tofu. Hidlwch y marinâd sy’n weddill i’w ddefnyddio i sgleinio (ond peidiwch â gwthio’r marinâd drwy’r gogr gan y bydd hyn yn creu lympiau yn y sglein).
- Rhowch y porc ar hambwrdd pobi gydag ychydig o olew. Rhostiwch am 30 munud, gan sgleinio gyda’r marinâd sy’n weddill bob rhyw 10 munud. Dylai’r marinâd losgi ychydig ar y top. Pan fo’n barod, gadewch i’r porc orffwys am 15 munud (os oes gennych brob tymheredd, mae’r porc yn barod i ddod allan o’r ffwrn pan fydd y tymheredd mewnol yn 65-75ºC).
- Tra bo’r porc yn rhostio, rhowch y ciwbiau seleriac ar hambwrdd pobi a diferu gydag olew hadau rêp a halen. Rhostiwch am 25 munud neu nes eu bod yn feddal ac wedi brownio ychydig.
- Tra bo’r porc a’r seleriac yn rhostio, rhowch sosban ar wres isel a chwysu’r sialót, y garlleg a’r sinsir ar gyfer y purée. Ychwanegwch y powdr pum sbeis. Pan fydd popeth yn feddal ac yn dryloyw, trowch y gwres i fyny’n uchel ac ychwanegwch joch o win Shaoxing. Gadewch i’r saws dewychu dros wres canolig nes bod y gwin wedi cyrraedd ansawdd surop, yna ychwanegwch y seleriac wedi ei rostio ynghyd â’r stoc cyw iâr a’i dewychu eto am 5 munud.
- Trosglwyddwch y cymysgedd purée hwn i gymysgydd, gan ychwanegu’r hufen dwbl yn raddol wrth i chi gymysgu. Cymysgwch i bast llyfn, yna pasiwch drwy ogr.
- Ar gyfer y salad hispi, cyfunwch yr holl gynhwysion ac eithrio’r sudd lemwn a’r olew. Ychwanegwch y dresin ar yr eiliad olaf bosibl a’i sesno â halen.
- I weini, sleisiwch y porc i ba drwch bynnag sydd orau gennych chi a’i weini gyda’ch salad a’ch purée.
Porc char siu gyda salad hispi a purée seleriac gan Simmie_V
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 1 awr
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 500g lwyn, lwyn ganol neu ysgwydd porc, (os ydych chi’n defnddio lwyn wedi’i rholio, tynnwch y croen – a’i gadw i wneud crofen/tonnen – a’i dorri’n hanner, ar ei hyd; os ydych chi’n defnyddio ysgwydd, torrwch hi’n stribedi 3 modfedd o hyd)
Ar gyfer y marinâd:
- 30g mêl
- 30g saws hoisin
- 30g saws soi tywyll
- 1-2 ciwb tofu coch wedi eplesu
- 30g hylif tofu coch wedi eplesu
- darn 1.5 modfedd o sinsir, wedi ei sleisio
- 4 ewin garlleg, wedi eu torri’n fras
- 20g gochujang
- 10g powdr pum sbeis
- 30ml gwin Shaoxing neu sieri
- pinsiad bach o halen
Ar gyfer y salad hispi:
- 1 fresychen felys, wedi ei sleisio’n fân
- 1 beren Asiaidd, wedi ei thorri’n giwbiau bach 0.5mm
- 15g dail coriander, wedi eu torri’n fân
- 3 shibwnsyn, wedi eu sleisio’n fân
- 10g yuzu neu sudd lemwn
- 5g olew hadau rep mwg
Ar gyfer y purée seleriac:
- ½ seleriac, wedi ei dorri’n giwibau 1 fodfedd
- 1 sialót, wedi ei sleisio’n fras
- 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
- darn 1 fodfedd o sinsir, wedi ei blicio a’i dorri’n fras
- 15ml gwin Shaoxing neu sieri
- 200ml stoc cyw iâr
- 150ml hufen dwbl
- 10g powdr pum sbeis
- halen, at eich dant
Dull
Ar gyfer Wythnos Porc o Gymru 2021, rydyn ni a’r arbenigwraig bwyd @simmie_v – sef y cogydd Simmie Vedi o Gaerdydd – wedi dod ynghyd i ddangos i chi pam y dylen ni ddewis porc lleol.
Dyma beth sydd gan Simmie i’w ddweud am ei rysáit:
“Char siu yw un o fy hoff ffyrdd i fwyta porc. Mae’r marinâd hyfryd, llachar gyda’r holl flasau Tsieineaidd hardd hynny ac ychydig o umami yn gwneud hwn yn opsiwn gwych ar gyfer porc. Boed hynny ar gyfer achlysur arbennig neu i’w weini’n syml gydag ychydig o reis i ginio, mae’r rysáit char siu hwn yn sicr o blesio!”