Yn Siop Fferm Maesgwyn rydym ni’n fenter fach sy’n ymroddedig i ddarparu bwyd lleol go iawn i’r rhai ohonom sy’n teimlo bod rhywbeth ar goll yn y byd masgynnyrch hwn. Fel plentyn rwy’n cofio pan oedd bwyd yn blasu cymaint yn well na’r hyn rydym ni’n ei gael o’r archfarchnadoedd mawr heddiw. Felly pan ddaethom ni i Maesgwyn, penderfynom ni wneud ymdrech a chynhyrchu ein cig ein hunain ar gyfer y bwrdd yn y ffordd hen ffasiwn. Dyna oedd y dechrau, ac wrth i’n ffrindiau a’n teulu ddarganfod y gwahaniaeth yn y bwyd oedd yn cael ei gynhyrchu gennym ni, daethom ni’n adnabyddus fel ffynhonnell brîd prin o borc, a oedd wir yn blasu fel porc! Ein prif fusnes yw cyflenwi cig ffres mewn pecynnau a thoriadau amrywiol o fochyn cyfan, 1/2 mochyn neu 1/4 mochyn, y cyfan wedi’i fwtsiera ar alw a’i bacio dan wactod er eich diogelwch.
Maesgwyn Farm Shop
Manwerthwr
Julia Benton
- Rydym yn cynnig cludiant am ddim
- Rydym yn cynnig cludiant ar draws Cymru
- Rydym yn gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr
- Rydym yn gwerthu o’n safleoedd
- Rydym yn gwerthu yn genedlaethol mewn archfarchnadoedd
