- Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Marc Nwy 6.
- Mewn powlen fach, cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y gymysgedd sbeisys i’w rhwbio nes eu bod yn bast. Rhwbiwch y past sbeisys dros y ddwy lwyn porc a’u gosod i un ochr.
- Cymysgwch 5 cynhwysyn cyntaf y salsa mango a’r saws brasteru (sudd oren, garlleg, halen, sudd leim, tsili). Rhowch 60ml o’r gymysgedd i un ochr ar gyfer y salsa mango.
- Curwch y mêl a’r olew olewydd i mewn i weddill y gymysgedd. Dyma fydd y saws brasteru. Rhowch y saws brasteru i un ochr.
- Y cam nesaf yw paratoi’r salsa mango. Torrwch y mango a’i gymysgu gyda gweddill y cynhwysion. Rhowch yn yr oergell tan eich bod yn barod i’w ddefnyddio.
- Cynheswch 1 llwy fwrdd o olew hadau rêp mewn padell ffrio nad yw’n glynu a gwrth-wres sy’n addas i’r ffwrn. Ffriwch y lwynau porc nes eu bod wedi brownio ar y ddwy ochr.
- Tynnwch y badell oddi ar y gwres a rhowch ddigonedd o saws brasteru ar y cig cyn ei roi yn y ffwrn boeth.
- Bob 5 munud, bydd angen brasteru’r cig gyda’r saws nes ei fod wedi coginio. Dylai 10 munud fod yn ddigon er mwyn cael porc sydd ychydig yn binc, yn dibynnu ar faint y lwynau. I fod yn hollol siŵr, defnyddiwch thermomedr cig i fesur tymheredd y porc yn y man mwyaf trwchus. Pan fydd y tymheredd yn cyrraedd 62°C (145°F) bydd y lwyn wedi coginio ond bydd yn dal i fod yn dyner ac yn llawn sudd blasus.
- Tynnwch y cig allan o’r ffwrn, ei osod ar blât, rhoi pabell o ffoil o’i gwmpas a’i adael i orffwys am 5 munud.
- Tra bod y cig yn gorffwys, mae angen lleihau’r saws brasteru sydd ar ôl gyda’r sudd yn y tun trwy ferwi’n ffyrnig.
- I weini, torrwch y lwynau’n sleisys lletraws tua 2 fodfedd o drwch a rhowch ychydig o’r saws brasteru sydd ar ôl ar ben y cig. Gweinwch gyda’r salsa mango ac i gael gwir brofiad fel yn y Bahamas, gweinwch gyda reis plaen wedi ei ferwi a ffa du.
Lwyn porc o’r Bahamas gan Corpulent Capers
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 2 x 450g lwyn porc, wedi eu trimio
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
Ar gyfer y gymysgedd sbeisys i’w rhwbio ar y porc:
- 2 lwy fwrdd olew hadau rêp
- 1 llwy fwrdd paprica (melys neu wedi’i fygu)
- 1 llwy fwrdd teim sych
- 1 llwy fwrdd oregano sych
- 1 llwy de halen môr
- ½ llwy de fflawiau pupur coch
Ar gyfer y saws brasteru a’r salsa mango (mae 60ml o’r gymysgedd uchod ar gyfer y salsa mango a’r gweddill ar gyfer y saws brasteru):
- 175ml sudd oren ffres
- 2 lwy fwrdd sudd leim ffres
- 1 llwy fwrdd garlleg, wedi ei falu’n fân
- 1 llwy de halen môr
- 1 tsili habanera neu unrhyw tsili poeth wedi ei falu’n fân (tynnwch yr hadau os nad ydych chi am iddo fod yn rhy boeth)
Ychwanegwch y canlynol i’r saws brasteru:
- 2 lwy fwrdd mêl
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
Ar gyfer y salsa mango:
- 275g mango aeddfed, wedi eu torri’n giwbiau bach
- 1 llwy fwrdd coriander ffres, wedi ei dorri
- 1 llwy fwrdd o dopiau shibwns, wedi eu torri
- y 60ml o’r saws brasteru a roddwyd i’r neilltu
Dull
Fe ofynnon ni i bobl leol sy’n sgrifennu blogiau am fwyd rannu eu hoff seigiau porc gyda ni. Dyma Carol Adams, sy’n ysgrifennu blog Corpulent Capers gyda’i gŵr Mark. Mae un ochr o deulu Carol yn hanu o’r Bahamas ac mae hi wedi penderfynu mynd yn ôl at ei gwreiddiau a chreu rysáit wedi ei seilio ar gynhwysion o’r Bahamas.