Angela Gray

Gwinllan Llanerch

Fy enw i yw Angela, ac rwy’n rhedeg fy ysgol goginio fy hun, Llanerch Vineyard, Hensol. Rydw i wedi bod yn angerddol am fwyd erioed, ond rydw i hefyd yn awchu i ddysgu mwy am y cynnyrch a’i darddiad, sydd wedi’m harwain i weithio gyda cynnyrch o Gymru.

Rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda phorc. Mae’n gynhwysyn mor amlbwrpas ac yn cael ei ddefnyddio mewn bwyd cymaint o wledydd ledled Ewrop, America ac Asia. Fodd bynnag, rydw i’n credu fod porc yn dal i gael ei danseilio yma yn y DU.

Fel cogydd, dw i’n teimlo’n hyderus braf wrth goginio cig porc o Gymru gan ei fod yn gynnyrch heb ei ail. Mae’r moch yn cael eu cadw mewn cenfeiniau bach ar y cyfan, ac yn dueddol o fyw mewn amgylchedd mwy naturiol â llai o straen, gan wella ansawdd y cig yn gyffredinol.

Mae ein cynnyrch Cymreig yn llawn traddodiad, a dw i wastad yn awyddus i’w rannu â gweddill y byd. Ar ôl gweithio mewn bwytai ac fel cogydd preifat i Andrew Lloyd Webber a’i debyg a rhai o deuluoedd bonedd Ewrop, dw i’n ddigon ffodus i allu gwneud hyn.

Fy hoff rysáit porc yw porchetta: bola mochyn sbeislyd wedi’i farineiddio am ddyddiau, cyn cael ei rolio a’i rostio’n araf. Gyda chig porc o Gymru, mae’n blasu’n anhygoel!

Rhowch gynnig ar rysáit Angela am porchetta: