facebookPixel

Darnau Bol Porc Halen a Tsili

  • Amser paratoi 6 awr
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 5-6 sleisen bol porc wedi’u torri’n giwbiau bach.

Marinâd:

  • 2 lwy fwrdd finegr seidr afal
  • Sudd ½ leim
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 llwy de naddion mân halen
  • ½ llwy de powdr tsili
  • ½ llwy de powdr garlleg
  • ½ llwy de naddion tsili
  • ½ llwy de pupur du

Sglein a saws dipio:

  • 2 lwy fwrdd mêl clir
  • 2 lwy fwrdd saws tsili melys

Dull

Gellir paratoi’r darnau bol porc halen a tsili hyn yn y popty neu’r ffrïwr aer er hwylustod. Bwyd bysedd perffaith os ydych chi’n diddanu gwesteion, dim ond ei weini a’i fwyta sydd i’w wneud!



  1. Mewn powlen fach cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y marinâd, arllwyswch i fag sy’n selio â sip.
  2. Ychwanegwch y ciwbiau porc i’r bag a chymysgu’n dda, gadewch iddynt farinadu am o leiaf 6 awr, dros nos os yn bosibl.
  3. Arllwyswch y darnau ar hambwrdd popty wedi’i iro a’u coginio mewn popty poeth am 25 munud nes eu bod wedi’u coginio ac yn grimp.(Gallwch eu coginio am 20 munud ar 200°C yn y ffwrn ffrio, gwiriwch eu bod wedi’u coginio ac yn grimp gan y gall ffyrnau ffrio amrywio).
  4. Gorchuddiwch ag ychydig o’r sglein a rhowch y gweddill mewn powlen fel saws dipio.
Share This