Rydym ni’n dyddyn teuluol ym Mynyddoedd y Preseli sy’n arbenigo mewn moch Cymreig Pedigri, ac rydym ni’n angerddol am gadwraeth y brîd hyfryd hwn. Fel tyddyn rydym ni’n ymfalchïo bod mwyafrif ein cenfaint yn treulio eu holl fywyd y tu allan, gan gynnwys porchella (rhoi genedigaeth) y tu allan.
Rydym ni’n cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion porc ac yn cynnig gwasanaeth ‘at eich drws’, p’un a ydych chi’n byw’n lleol neu mewn man arall yn y DU. Rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaeth cigyddiaeth pwrpasol, felly p’un a ydych chi’n archebu mochyn cyfan wedi’i fwtsiera neu gwpl o olwythion, gallwch fod yn hyderus o gael yr union beth rydych chi ei eisiau.