Mae gen i gefndir fel cogydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol ac rwy’n ceisio dod â chreadigrwydd ac angerdd i’m gwaith. Mae gen i ddiddordeb mewn bwyd a darparu cynnyrch o ansawdd uchel ers erioed. Dechreuais fy nhaith cigyddiaeth ddwy flynedd yn ôl ar ôl i’r pandemig wneud i mi ailfeddwl fy ngyrfa a nid wyf wedi meddwl ddwywaith. Ar ôl gweithio mewn cigydd arall am 18 mis, penderfynais ei bod yn amser i ymgymryd â fy siop fy hun a her newydd sbon.
Er bod gweithio yn y siop gan ddefnyddio unrhyw un o’r eitemau neu’r cynhwysion gorau yn dod a chynnwrf mawr i’m gwaith, rwy’n ceisio dyrchafu’r cynnyrch lle bynnag y bo’n bosibl gan roi’r amser a’r blas y mae’n haeddu tra’n lleihau gwastraff a defnyddio’r dull trwyn i gynffon o fewn y busnes.
Rydym yn ceisio defnyddio cymaint o gynnyrch Cymreig a Phrydeinig ag y gallwn lle y bo’n bosibl ac rydym bob amser yn ffafrio ansawdd dros bris. Ein harwyddair yw “Cynnyrch o Ansawdd Uchel am Brisiau Fforddiadwy”