Wedi ein lleoli yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ar Fferm Rhosyn rydym ni’n ddigon ffodus i fod yn byw ein breuddwyd ers symud i Gymru yn 2006, gan adael bywyd y ddinas ar ôl – a dydyn ni ddim wedi difaru! Rydym ni’n ymfalchïo mewn bridio ein stoc ein hunain, magu moch yn yr awyr agored yn yr amgylchedd mwyaf delfrydol a rhoi gofal a sylw o’r ansawdd gorau i’n hanifeiliaid. Mae croeso i bawb gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth neu gyngor a byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n dod draw i ymweld â ni er mwyn i chi allu crwydro’r fferm a chwrdd â’r holl anifeiliaid.
Darllenwch fwy am Rhosyn Farm yn ein hadran Cwrdd â’r Cig