Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wrth galon y gymuned ac rydym ni’n agor ein giât i ryw 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Ein nod yw ennyn diddordeb plant a’u teuluoedd mewn ffermio o oedran ifanc iawn a’u dysgu am ble mae ein bwyd yn dod a beth yw ffermio – a’r cyfan wrth gael llawer o hwyl!
Rydym ni’n cadw bridiau prin ac yn cynhyrchu ychydig bach o borc (Berkshire, Middlewhite a Chymreig) a chig oen (Jacob, Badger Face a Colored Ryeland) bob blwyddyn, sy’n cael ei werthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr gysylltiadau i brynu cig pan fydd ar gael, anfonwch e-bost atom ni gyda’ch manylion cyswllt.