Yr hyn sy’n allweddol i’n busnes yw cyrchu ein cig gyda gofal gan gyflenwyr lleol, ac yn aml o fferm fy nhad fy hun. Mae ein holl gig, nid y porc yn unig, yn teithio pellter bychan iawn. Mae cefnogi ffermwyr ar raddfa lai sy’n cadw bridiau traddodiadol yn bwysig iawn i ni oherwydd rydyn ni’n gwybod bod yr anifeiliaid yn cael gofal da a dyna rydyn ni ei eisiau: ansawdd a lles.
Darllenwch fwy am Myrddin Heritage yn ein hadran cwrdd â’r cig.