Fy enw i yw Suzy Williams, ac rwy’n rhedeg tyddyn bach teuluol Tŷ Siriol yn Abertawe. Mae’r hyn ddechreuodd fel hobi i mi a Martyn fy ngŵr bellach yn ddiddordeb angerddol i ddarganfod mwy am darddiad cig porc blasus dros ben.
Ers hynny, mae’n fferm wedi mynd o nerth i nerth ac mae bellach yn bum erw gyda 50 o foch Cymreig pedigri pur, ac rydyn ni’n dal i dyfu. Er bod y fferm yn newydd, busnes traddodiadol ydym ni heb os. Credwn mewn gweithio gyda natur i gynhyrchu porc o’r radd flaenaf. Pan mae’r tymhorau’n newid, rydyn ni hefyd yn newid ein ffordd o ofalu am ein moch.
Credwn fod moch hapusach yn blasu’n well, felly dyna pam rydym ni, fel sawl fferm Gymreig arall, mor falch o’r pwyslais a’r gofal a roddwn i bob un o’n hanifeiliaid.
Rydym yn deall yr effaith mae ein hinsawdd a’n tirwedd unigryw yng Nghymru yn gallu’i chael ar ansawdd ein cig, ac felly rydyn ni’n symud ein moch dan do dros fisoedd y gaeaf er mwyn cyfyngu ar faint o fraster sydd ar y cynnyrch gorffenedig. Mae pob un o’n moch yn byw bywyd hamddenol braf, sy’n arwain at gig porc mwy blasus maes o law. O gadw brodyr a chwiorydd o fewn cenfaint i ddefnyddio lladd-dy lleol, rydym ni’n osgoi symud gormod o’r moch er mwyn sicrhau cyn lleied â phosib o straen arnynt.
Ffermio yw’r swydd anoddaf, ond mwyaf gwerth chweil, dw i erioed wedi’i chael, a dyna pam rwy’n dwli arni. Bob dydd, caf gyfle i weithio’n agos gyda chynhyrchwyr lleol a busnesau Cymreig. Mae popeth ar ein fferm yn lleol – gyda’r holl wellt yn dod lawr yr hewl o Paviland Manor, Gŵyr, ac rydym yn mynychu gwyliau bwyd a marchnadoedd fferm yng Nghymru i sicrhau bod ein cynnyrch yn cyrraedd cwsmeriaid lleol hefyd.