Simon Wright

Wright’s

Simon Wright ydw i, ac rydw i wedi bod yn rhedeg bwytai yng ngorllewin Cymru ers ymhell dros 30 o flynyddoedd erbyn hyn; rydw i hefyd yn ysgrifennu ac yn darlledu am fwyd.

I mi, mae porc ar yr un lefel â chig oen fel rhai o’r bwydydd gorau rydyn ni’n eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae’n un o fy hoff gigoedd i weithio gydag ef.

Rwy’n credu’n gryf mewn coginio gyda chynnyrch lleol o ansawdd ac rydyn ni’n lwcus iawn yng Nghymru bod yma gynhyrchwyr porc gwych.

Dydy Cymru ddim yn cynhyrchu llawer iawn o borc, ond mae’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu o ansawdd uchel iawn diolch i’n bridiau brodorol a threftadaeth a’r ffordd y mae ein ffermwyr ymroddedig yn eu cadw nhw: mae’r moch yn tyfu’n arafach o lawer ac maen nhw’n treulio llawer o amser yn yr awyr agored. Dyma’r pethau sydd eu hangen arnoch chi i gynhyrchu blas gwych.

I mi, does dim rhaid i fwyd gwych fod yn gymhleth oherwydd bydd blas cynhwysion o ansawdd yn disgleirio bob tro.

Un o’n prydau mwyaf poblogaidd yn Wright’s yw’r bol porc Cubano – ond mae ei lwyddiant yn gwbl ddibynnol ar ansawdd y porc, sydd â’r gallu i drawsnewid pryd syml a diymhongar o fod yn dda, i fod yn wych.

Mae cefnogaeth i gynhyrchwyr lleol wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud: rydyn ni’n gwybod mai dyma beth mae ein cwsmeriaid ei eisiau a’i fod yn gwneud ein bwyd yn fwy blasus. Y mwyaf o borc lleol y gallwn ei gael, gorau oll i’n busnes a gorau oll i’n cwsmeriaid.

Rhowch gynnig ar rysáit Simon am bol porc Cubano: