Owen Morgan

Myrddin Heritage

Owen ydw i ac ar y cyd â fy ngwraig Tanya rydyn ni’n rhedeg Myrddin Heritage yn Llandysul, Gorllewin Cymru.

Dechreuodd ein taith yn 2013, pan brynodd Tanya ddau fochyn anwes i mi ar fy mhen-blwydd yn 23 oed. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2015, gwnaethon ni benderfynu nad oedd swyddi mewn swyddfeydd yn addas i ni, ac roedden ni am ddilyn gyrfa mewn ffermio moch oherwydd ein bod ni wedi dod i ddwlu cymaint ar yr anifeiliaid.

Doedd yr un ohonon ni’n dod o gefndir ffermio nac yn meddu ar unrhyw wybodaeth am ffermio – roedden ni’n bendant yn ystyried ein hunain yn bobl y dref! Felly aethon ni i Awstralia i ennill profiad ar ffermydd moch.

Gwnaethon ni ddysgu popeth yn Awstralia: o ffensio, i sut i fridio a gofalu am foch, a sut i gynhyrchu porc a gwerthu’r cynhyrchion.

Daethon ni adref i Gymru yn 2017, â chynllun ac angerdd i droi ein breuddwyd yn realiti. I ni, doedd dim troi yn ôl.

Daethon ni o hyd i dyddyn bach yma yng Ngheredigion a dechrau ein busnes. Rydyn ni nawr yn magu amrywiaeth o foch Cyfrwyog sy’n tyfu’n araf – brîd traddodiadol sy’n gwneud yn dda iawn y tu allan.

Ein gweledigaeth oedd defnyddio cynhwysion naturiol a sicrhau bod popeth yn rhydd o gadwolion. I ni, y peth pwysicaf yw sicrhau ein bod yn cadw at yr hen draddodiadau, sef gwneud ein cynnyrch â llaw yn ein cartref a defnyddio cynhwysion naturiol.

Ond rydyn ni hefyd yn ceisio dangos beth sy’n digwydd tu ôl i’r llenni trwy’r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod cwsmeriaid yn gallu gweld o ble mae eu bwyd yn dod.

Yng Nghymru rydyn ni’n mewnforio tua 95% o’n cynhyrchion porc, felly mae angen i ni dyfu a chefnogi ein cynhyrchwyr porc lleol. Mae ansawdd y porc ar draws Cymru yn dda iawn, ac mae mwyafrif y cynhyrchwyr yn fach fel Tanya a fi, ac yn cadw eu moch y tu allan.

Dim ond 40% o foch yn y DU sy’n cael eu cadw y tu allan, ond i ni mae hynny’n gwbl hanfodol: i’r anifail, ac oherwydd bod cig sy’n cael ei fagu yn yr awyr agored yn blasu cymaint yn well, yn fy marn i.

Ers y pandemig bu’n rhaid i ni newid ein ffordd o weithio, gan ein bod ni’n arfer gwerthu i fwytai ond rydyn ni bellach wedi sefydlu Myrddin Heritage & Friends ar-lein ac wedi cyflogi dau weithiwr.

Yn ôl ym mis Mawrth 2020, datblygodd Tanya ein gwefan newydd yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod clo cyntaf, ac o hynny gwelson ni’r busnes yn mynd o nerth i nerth. Nawr mae gennyn ni dros 1,300 o gwsmeriaid ar-lein; rydyn ni’n ffodus iawn i fod mor brysur. Ein diwrnod dosbarthu yw dydd Gwener ac mae’n rhaid i ni ddechrau am 3am i gael yr holl archebion wedi’u pacio a’u hanfon allan!

Ond rydyn ni’n mwynhau’r cyfan, ac yn bwysicaf oll rydyn ni’n mwynhau treulio amser y tu allan gyda’r moch. Mae pob wythnos yn her, ond rydyn ni wrth ein bodd!