Ni yw’r partneriaid busnes Graeme ac Andy, a gyda’n gilydd rydyn ni’n rhedeg Cwm Coch, a elwir hefyd yn Red Valley Farm.
Mae gennyn ni 76 o foch, yn gymysgedd o faedd gwyllt, i faedd gwyllt wedi’i groesi â mochyn cyfrwyog a mochyn gwyn Cymreig. Dechreuon ni gyda dim ond tri mochyn, Sal a’n dau faedd gwyllt Minnie a Mouse – cyn i Mouse gael ei roi inni, anifail anwes rhywun oedd ef: fe sy’n rhedeg y lle ‘ma go iawn!
Mae sut mae ein moch yn cael eu cadw o bwys mawr i ni. Rydyn ni’n cael boddhad o weld yr anifeiliaid yn cael eu geni, eu magu, yn tyfu ac yn mwynhau’r amgylchedd rydyn ni’n ei ddarparu ar eu cyfer nhw. Rydyn ni’n cadw ein holl foch mewn lleiniau glaswellt a phridd enfawr lle maen nhw’n cael crwydro cymaint ag y maen nhw eisiau, ac rydyn ni’n ceisio creu amgylchedd mor naturiol â phosib iddyn nhw. Mae cael nifer bach o foch mewn corlannau mawr hefyd yn caniatáu inni gadw llygad barcud ar les cyffredinol pob mochyn, gan sicrhau ein bod yn cynhyrchu cig o’r ansawdd gorau.
Rydyn ni’n eu bwydo ar rawn a gyflenwir gan y ddau fragwr lleol ac rydyn ni hefyd yn dod yn hunangynhaliol am y tro cyntaf eleni wrth gynhyrchu ein gwellt a’n gwair ein hunain ar gyfer ein moch – maen nhw’n bwyta’n well na ni weithiau!
Ar ddiwedd y dydd, y moch hyn yw ein dyfodol, a dyna sy’n ein clymu i fferm Cwm Coch ac yn sicrhau bod y lle hwn yn dal i fod yma ar gyfer cenhedlaeth nesaf ein plant, ac efallai hyd yn oed eu plant nhw.
Yn yr oes sydd ohoni, mae defnyddwyr eisiau gwybod o ble mae eu cynhyrchion yn dod fwyfwy; y peth gorau amdanon ni yw y gallwn ddweud wrthych ym mha gae y ganwyd mochyn, pa un yw’r fam, pwy yw’r tad, pwy yw’r brawd a gallwn ddweud wrthych yn union ar beth y mae’n bwydo. Rydyn ni’n rhoi stori gyfan ei fywyd i chi oherwydd nad oes unrhyw beth ar y fferm hon wedi’i ddwyn i mewn, ar wahân i’r tri mochyn gwreiddiol.
Rydyn ni’n gwerthu selsig a byrgyrs yn bennaf, ac mae gennyn ni ddetholiad eang o flasau fel afal, pupur du ffres, cennin, perlysiau, saets a mwstard, i enwi ond ychydig. Ein cynnyrch mwyaf poblogaidd, sy’n gwerthu fel slecs, yw ein byrgyrs baedd ac afal.
Rydyn ni hefyd yn cyflenwi bol porc, cig moch, gamon, darnau coes, darnau ysgwydd, bron iawn unrhyw beth y gallwch ei gael gan fochyn. Yr hyn sy’n wych am yr hyn rydyn ni’n ei wneud fel cynhyrchydd ar raddfa fach yw, os oes unrhyw beth penodol yr hoffai cwsmeriaid ei gael, gallwn ei baratoi’n arbennig ar eu cyfer.