Daniel Morris

Cigydd Daniel Morris

Yr hyn sy’n allweddol i’n busnes yw cyrchu ein cig gyda gofal gan gyflenwyr lleol, ac yn aml o fferm fy nhad fy hun. Mae ein holl gig, nid y porc yn unig, yn teithio pellter bychan iawn. Mae cefnogi ffermwyr ar raddfa lai sy’n cadw bridiau traddodiadol yn bwysig iawn i ni oherwydd rydyn ni’n gwybod bod yr anifeiliaid yn cael gofal da a dyna rydyn ni ei eisiau: ansawdd a lles.

Dechreuais i fel bachgen dydd Sadwrn mewn siop gigydd, a’i fwynhau, wastad eisiau mwy a mwy o waith nes i mi gael cynnig prentisiaeth. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, bûm yn ddigon ffodus i gael y cyfle i gymryd siop gigydd drosodd yn Ninbych yn 2019, ac er i Covid gyrraedd ar amser gwael, rydw i wrth fy modd gyda sut mae pethau wedi mynd. Rydyn ni wedi parhau i fod yn brysur iawn, a hyd yn oed wedi cael cyfle i agor ail siop yn yr Wyddgrug yn 2021.

Y peth rydw i wir yn ei garu ynglŷn â chael siop gigydd yw cael sgwrs gyda’r cwsmeriaid a bod yn rhan o’r gymuned. Er enghraifft, gallwn ofyn iddyn nhw sut yr hoffen nhw i rywbeth gael ei goginio, gallwn awgrymu’r ffyrdd gorau o goginio pethau neu gynnig rhywbeth gwahanol os nad ydyn nhw’n siŵr beth hoffen nhw, a dyw hynny ddim bob amser yn wasanaeth y byddwch chi’n ei gael mewn archfarchnad.

Un o’n cynhyrchion mwyaf poblogaidd yw ein ‘stêc porc hunter’, sef lwyn porc traddodiadol wedi’i lapio â’n cig selsig ein hunain, a chrwst pupur ar y tu allan. Mae paratoi bwyd sy’n barod i’n cwsmeriaid ei roi yn y popty neu yn y badell yn wych ar gyfer ffyrdd prysur o fyw, a gobeithiwn y bydd y math hwn o beth, yn ogystal â’r holl ddarnau traddodiadol wrth gwrs, yn parhau i ddenu cwsmeriaid newydd trwy’r drws yn ogystal â gweld y cwsmeriaid yn dod yn ôl i’r siop bob wythnos.

Rwy’n ffodus fy mod yn gallu dweud fy mod wir yn mwynhau’r swydd lawn cymaint nawr â roeddwn i pan oeddwn i’n 15, 16 oed! Gyda’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan ein cwsmeriaid a’r brwdfrydedd rydyn ni wedi’i gael gan y gymuned, rydw i wir yn meddwl bod dyfodol disglair i siopau cigydd yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.