Beth sy’n gwneud ein porc mor arbennig?
Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.
Rhesymau i garu
Rydym yn gwneud pethau’n wahanol yng Nghymru. Ffermydd bach arbenigol sydd gennym. Maen nhw wedi’u gwreiddio mewn traddodiad dros gannoedd o flynyddoedd ac wedi’i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae ein tirwedd yn gyfoethog a’i hunaniaeth yn gryf. Mae ein moch yn cael eu magu â llaw mewn cenfeintiau bychain, ac mae gan ein ffermwyr werthoedd traddodiadol ond llawn gweledigaeth.
Mae proffil ein diwydiant porc hefyd yn tyfu ac mae ganddo hanes gwych i’w adrodd; stori rydyn ni’n credu y dylen ni i gyd fod yn falch iawn ohoni.
Ryseitiau
Gadewch i’n ryseitiau blasus gynning ysbrydoliaeth i chi wrth goginio – o rai hawdd i rai hudolus.
Ble i Brynu
Awyddus i ddarganfod eich cyflenwr porc lleol? Darganfyddwch fanylion am bob un o’n cynhyrchwyr a manwerthwyr cofrestredig.