Adnabod eich toriadau
Bydd deall ychydig am gyfansoddiad cig yn eich helpu i ddewis y dull gorau o goginio toriad penodol – gan y bydd yn gwneud byd o wahaniaeth i’r blas a’r tynerwch.
Cliciwch ar doriad o gig i ddarganfod mwy a gweld ryseitiau.
Asennau bras
Mae asennau breision ychydig yn fwy na darnau eraill o asennau ac yn cynnwys mwy o gig hefyd. Y ffordd orau o’u paratoi yw eu coginio’n araf ar wres isel tan eu bod nhw’n frau ac yn llawn sudd. Gallwch roi’ch stamp eich hun ar eich seigiau trwy farineiddio’r cig, ond cofiwch frwysio’r asennau wrth eu coginio er mwyn eu cadw’n suddlon.
Ysgwydd
Yn hawdd i’w baratoi, mae brithder y cig yn rhoi blas gwych ac yn aros yn frau wrth ei goginio, sydd yn berffaith ar gyfer cinio rhost traddodiadol – rhwbiwch halen môr mewn i’r ysgwydd i gael crofen anhygoel. Mae’n ddarn o gig y gellir ei ddefnyddio mewn pob math o ffyrdd, ac mae’n berffaith ar gyfer stêcs, darnau o gig, briwgig neu wedi’i goginio’n araf i greu porc wedi’i dynnu oddi ar yr asgwrn.
Gwddf
Mae rhai’n dweud bod y darn rhataf hwn yn berffaith ar gyfer cawl, stoc a stiwiau. Mae tipyn o gyhyr ynddo ond mae’n flasus yr un fath, ac yn creu ansawdd suddlon hyfryd. I’w rostio, dylech ei goginio’n araf ar wres isel. Wedi’i fritho â braster, mae’r darn hwn sy’n llai adnabyddus yn llawn blas.
Palfais
Daw stêcs y balfais o fan yn agos i’r ysgwydd ac mae’n cynnwys asgwrn y balfais. Diolch i’r braster sy’n britho’r darn hwn o gig, mae’n llawn blas ac yn aros yn suddlon wrth ei goginio. Mae’n ddarn gwych i’r rhai sydd ar frys – gallwch ei frwysio, ei grilio neu ffrio’r porc yn ysgafn ond gofalwch nad ydych chi’n gorgoginio’r cig.
Coesgyn
Mae’r coesgyn o dan yr ysgwydd, reit ar yr asgwrn. Gellir ei halltu fel ham neu ei ddefnyddio mewn selsig. Mae’r coesgyn yn ddelfrydol i’w rostio am ei fod yn llawn sudd – o’i goginio’n araf, mae’r cig yn frau dros ben ac yn disgyn yn syth oddi ar yr asgwrn.
Lwyn
Mae’r darn hyfryd hwn o borc diasgwrn yn berffaith ar gyfer ei rostio ac yn creu pryd addas i unrhyw achlysur arbennig. Fel arfer, mae’r lwyn wedi’i rholio a’i chlymu â darn o linyn er mwyn sicrhau ei bod yn coginio’n drylwyr drwyddi. Mae’r lwyn ganol neu’r tyner-lwyn yn enwog am fod y darn drutaf – a’r un mwyaf tyner hefyd.
Bola
Bola’r mochyn yw un o’r darnau porc mwyaf poblogaidd a phwysicaf. O facwn i selsig a sbaribau, y bola yw darn mwyaf ffrwythlon y mochyn. Mae’n cynnwys mwy o fraster, a gellir ei dorri’n fân ar gyfer ffrïo, ei ddefnyddio ar gyfer stêcs a’i rolio ar gyfer ei rostio.
Coes
Daw’r darn hwn o goes ôl y mochyn, ac er ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ham fel arfer, mae’r ffaith nad oes ganddo lawer o fraster yn golygu ei fod yn berffaith i’w rostio. Er mai dyma un o’r darnau drutaf o borc, mae’n cynhyrchu crofen fendigedig!
Pen
Er ei fod yn ddigon i ddychryn unrhyw un, mae llawer o seigiau blasus yn bosibl os ydych chi’n mynd ati i goginio pen mochyn. Mae’n hawdd paratoi’r bochau, y trwyn neu’r swch a’r tafod ac maen nhw’n flasus mewn byrgyrs, pâté a chawl. Mae’r bochau yn flasus iawn wedi’u brwysio’n araf, a gallwch ffrio neu bobi’r clustiau ar ôl eu berwi, ac mae’n bosibl berwi’r pen i greu stoc blasus.
Morddwyd
Darn digon rad sy’n dod o goes y mochyn, dan y ben-lin. Gallwch ei brynu wedi neu heb ei gochi, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer stiwiau a chawl. Mae’n ddarn mwy gwydn o gig, felly mae’n well ei goginio’n araf ar wres isel.
Traed mochyn
Er nad ydyn nhw at ddant pawb, mae modd creu pryd blasus iawn drwy ddefnyddio traed mochyn ac maen nhw’n ffordd wych o brofi rhywbeth newydd yn y gegin. Yn sydyn a syml i’w coginio, mae’r droed flaen ac ôl yn ddelfrydol i’w berwi nes bod y cig yn frau. Cofiwch roi’r traed mochyn i fwydo mewn dŵr oer yn gyntaf.