Wayne ydw i ac rydym ni’n fusnes moch teuluol bach yma yn Puff Pigs – efallai eich bod wedi clywed amdanom ni oherwydd yn 2019 enillon ni wobr y Selsig Gorau yn Sioe Frenhinol Cymru.
Rwy’n dod o Lanelli yn wreiddiol, ond roedd fy ngwraig a fi’n byw yn Lloegr pan benderfynom ni ein bod ni eisiau symud yn ôl i Gymru i ddechrau teulu. Dydyn ni ddim yn dod o gefndiroedd ffermio, ond roeddem ni eisiau prynu ychydig o dir a magu ein cig ein hunain. I mi, mae’n fraint enfawr cael y lle hardd hwn rydym ni’n ei ffermio ym Mhontypridd.
Fe ddechreuon ni drwy symud i dyddyn ar fynydd yn Ne Cymru a dechrau magu ychydig o ddiddyfynwyr i’w rhoi yn y rhewgell. Erbyn i’r plant fod yn 5 neu 6 oed, roedden nhw eisiau gwneud mwy a mwy gyda’r moch felly fe benderfynon ni ddechrau mynd i ffeiriau’n aml, a dyna pryd ddechreuon ni fridio.
Dewision ni fridio moch Cyfrwyog Prydeinig, sydd yn edrych yn wych yn ein barn ni – ond sydd hefyd yn wydn iawn, sy’n bwysig pan rydych yn byw ar fynydd Cymreig! Tydi’r brid yma ddim yn addas i’w gynhyrchu ar raddfa fawr, a dim ond 300 hwch Gyfrwyog gofrestredig sydd yn y DU gyfan. Rhan o’n cenhadaeth ni – yn ogystal â gallu cael dau ben llinyn ynghyd, wrth gwrs – yw ei bod yn bwysig ein bod yn cyfrannu at achub y brid traddodiadol hwn.
Rydym ni’n canolbwyntio ar gynnyrch o’r ansawdd gorau ac mae’r gallu i olrhain yn bwysig iawn i ni. Mae gallu dychmygu ble mae ein fferm – a ffermydd bach eraill fel ein un ni – yn rhoi llawer o gysur i bobl, rwy’n meddwl, o ran y ffordd y caiff yr anifeiliaid eu magu a sut mae’r cig hwnnw’n cael ei gynhyrchu. Y ffordd rydym ni’n cymryd llawer o ofal dros ein moch, a’r amodau awyr agored, rhydd y maen nhw’n byw ynddyn nhw.
Rydym ni hefyd wedi cael cefnogaeth wych gan ein cymuned leol. Maen nhw wir wedi cymryd at y syniad o rywun yn ceisio cynhyrchu rhywbeth ar garreg eu drws.
Mae’r galw wedi bod yn enfawr yn ystod coronafeirws a’r cyfnodau clo amrywiol. Mae pobl wir wedi cofleidio peidio â mynd i’r archfarchnad, peidio â bod yn rhan o gynulliad torfol, ac eisiau siopa’n lleol. Rydw i wedi clywed yr un peth gan y cyflenwr llysiau lleol, ac roedd pris cig oen hefyd yn uwch eleni. Felly, rwy’n credu bod pobl wedi dechrau deall manteision dod o hyd i’w cynnyrch yn lleol – gobeithio y bydd yn para.”