Rydym ni’n dyddyn bach teuluol ger Pontarddulais, Abertawe, yn bridio ac yn magu moch Cymreig o Frîd. Ein hathroniaeth yw “cadw pethau’n syml” ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu ym mhopeth a wnawn. Iechyd a lles ein moch Cymreig o Frîd yw ein prif flaenoriaeth, gan ein bod yn credu’n gryf mai dim ond moch hapus fydd yn cynhyrchu porc sy’n blasu’n wych. Rydym ni allan gyda nhw bob dydd, yn eu bwydo ac yn carthu, felly maen nhw’n hollol gartrefol gyda ni.
Rydym ni’n gwneud ein holl gynhyrchion porc ein hunain yn ein siop gigydd yn y tyddyn ac wedi ymrwymo i gynhyrchu cynhyrchion porc â llaw o’r safon uchaf trwy fagu moch hapus a bodlon. Rydym ni’n falch iawn o’r Porc Cymreig, y selsig a’r cig moch rydym ni’n eu cynhyrchu, ac rydym ni’n gobeithio y byddwch chi’n eu mwynhau hefyd.
Darllenwch fwy am Tŷ Siriol yn ein hadran cwrdd â’r cig.